Mae gan Brifysgol Cymru, Bangor traddodiad llwyddiannus o gydweithio gyda busnesau a'r gymuned. Rydyn ni'n ymroi i'n rôl hanfodol ym mywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yr ardal. Rydyn ni'n anelu at archwilio'r posibiliadau o gydweithio gyda sefydliadau a phartneriaid yng Nghymru, Prydain a dros y môr gyda'r bwriad i gryfhau a chynyddu llwyddiant ein haddysgu a'n gwaith ymchwil.
Menter / Entrepreneuriaeth
Mae Prifysgol Cymru Bangor yn ymroddedig i gefnogi menter ac entrepreneuriaeth mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, mae myfyrwyr neu raddedigion yn gallu elwa drwy'r gefnogaeth entrepreneuriaeth unigryw drwy'r Rhaglen Cefnogi Menter sy'n cael ei redeg gan y Canolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd sy'n helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau entrepreneuriaeth drwy gyfres o weithdai ac ysgol haf. Mae myfyrwyr a graddedigion, sydd â diddordeb mewn hunan gyflogaeth, yn gallu dod o hyd i gyngor a chanllawiau drwy fentora un wrth un a chael mynediad i gyfleoedd am grantiau. Mae Clwb Entrepreneuriaeth, sy'n cael ei redeg dan arweiniad myfyrwyr, a fforwm entrepreneuriaeth wedi'u sefydlu i annog myfyrwyr a graddedigion i rwydweithio gyda phartneriaid a busnesau mewnol ac allanol. Er enghraifft, mae myfyrwyr neu raddedigion yn gallu;
- elwa o'r rhaglen cefnogi menter ( GoWales B-Enterprising ) sy'n helpu myfyrwyr baratoi ar gyfer gwaith hunangyflogedig neu waith llawrydd
- datblygu ei rhagolygon gyrfa drwy gymryd rhan mewn prosiectau gyda phroffil uchel gyda chwmnïau lleol trwy'r Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)
- Knowledge Transfer Partnerships
- elwa o raglenni menter (fel y Rhaglen Ddeillio Cymru { Wales Spin Out Programme }) sy'n cynnig cefnogaeth i bobl sy'n dymuno cychwyn busnes yng Nghymru
- chwilio am gyfleoedd grantiau ac arweiniad oddi wrth raglenni sy'n cael eu rhedeg gan Borth Arloesi Bangor , yr uned arbenigol sy'n darparu'r prif ffocws i gefnogaeth ymchwil y Brifysgol, menter a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth (KTP)
Ymchwil
- Mae'r Bartneriaeth Ymchwil a Menter yn ddatblygiad cyffrous a phwysig. Mae'n gydweithrediad strategol rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'r bartneriaeth yn adeiladu ar yr enwau da a galluoedd y ddau sefydliad ac yn anelu at eu gwneud yn fwy cystadleuol a chreu crud ymchwil byd-enwog a chynaliadwy yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
- Canolfan ESRC dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd - Prif ganolbwynt theoretig Canolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd yw natur y berthynas rhwng dwy iaith siaradwyr dwyieithog mewn cymunedau dwyieithog.
- Sefydliad Newrowyddoniaeth Gwybyddol Cymru (WICN) - Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwobrwyo Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe £5.17 milliwn i sefydlu aml-ganolfan Sefydliad Newrowyddoniaeth Gwybyddol Cymru (WICN).
Yn gweithio i a gyda Busnesau / Cyflogwyr
Mae ein Our arbenigedd a phresenoldeb yn yr ardal yn gymorth i greu a denu busnesau. e.e Rydyn ni'n :
- cydweithio gyda busnesau, sefydliadau ac asiantaethau datblygu economeg
- gallu cael mynediad i gronfeydd a chefnogaeth i helpu busnesau gwella perfformiad
- darparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys efrydiaeth, lleoliadau i raddedigion, ymgynghoriaeth i raddedigion, datblygu prosiectau a chefnogaeth i fusnesau newydd
Rydyn ni'n gweithio gyda busnesau a diwydiant ar y canlynol:
- Sefydlu Canolfan Fusnes a Rheolaeth gwerth £10 miliwn yn y Brifysgol
- Prosiectau gyda phroffil uchel fel Technium CAST (Canolfan Technoleg Meddalwedd Uwch, CAST) a Technium OpTIC ym Mharc Busnes Llanelwy
Hefyd, mae gennym gysylltiadau agos gyda'r
- NHS yng Nghymru. Prifysgol Cymru, Bangor yw un o'r darparwr hyfforddiant ac addysg fwyaf ar gyfer yr NHS yng Nghymru (gan gynnwys gradd nyrsio llwybr cyflym ar gyfer Cynorthwywyr Gofal Iechyd yn Ysbyty Glan Clwyd). Mae'r Brifysgol hefyd yn un o brif bartneriaid yr Ysgol Glinigol Gogledd Cymru newydd
- Ysgolion, awdurdodau addysg leol a'r byd addysg fel un o'r darparwyr hyfforddiant athrawon mwyaf yng Nghymru
- Llu o gyrff proffesiynol a chymdeithasau eraill. e.e. mae'r radd newydd yn Y Gyfraith wedi'i greu mewn cydweithrediad â'r cwmnïau yn y rhanbarth
Cysylltiadau gyda sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach
Mae gan y Brifysgol cysylltiadau gyda sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach ym Mhrydain a thu hwnt. Mae'r cysylltiadau yma yn cefnogi'r ystod o gyfleoedd dysgu sy'n cynnwys cyrsiau a rhaglenni cyfnewid myfyrwyr. Mae cysylltiadau fel rhain yn ehangu'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael i'n myfyrwyr, yn ymestyn mynediad i gyrsiau ac yn darparu myfyrwyr gyda chyfleoedd i gwblhau rhan o'u hastudiaethau mewn man arall.