UWB Crest

Gwybodaeth am y Brifysgol

Proffil o'r Brifysgol

Delwedd o Brifysgol Cymru, Bangor
  • Wedi’i sefydlu yn 1884, mae Prifysgol Bangor wedi hen ennill ei phlwyf fel un o’r Prifysgolion mwyaf blaenllaw ac mae ganddi draddodiad hir o ragoriaeth academaidd sy'n parhau hyd heddiw. Mae dros hanner yr adrannau sydd wedi'u hasesu hyd yn hyn yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil wedi cael eu dyfarnu'n 'ardderchog', sef y dosbarthiad uchaf
  • Mae gan y Brifysgol dros 10,000 o fyfyrwyr, 26 ysgol academaidd a dros 600 o staff dysgu
  • Mae Prifysgol Bangor yn un o'r goreuon ar gyfer y pwysau gwaith tecaf ymhlith holl brifysgolion Prydain yn ôl yr arolwg Profiad Myfyrwyr blynyddol a gyhoeddir gan gylchgrawn y Times Higher Education (Ion 2010).
  • Mae'r Brifysgol yn perfformio yn dda yn gyson mewn arolygiadau myfyrwyr.
  • I ateb gofynion am neuaddau preswyl cyfoes, agorodd y Brifysgol neuaddau preswyl newydd a oedd yn rhan o broject £35M i uwchraddio Safle Ffriddoedd.
  • Mae ailddatblygiad gwerth £20 miliwn o’r campws sy'n cynnwys canolfan busnes a rheolaeth gwerth £10 miliwn ac adeilad newydd i wyddorau’r amgylchedd wedi ei gwblhau.
  • Bangor yw'r ail le rhataf ym Mhrydain i fyfyrwyr fyw ynddo, yn ôl tabl sydd wedi ei roi at ei gilydd gan y wefan canllaw annibynnol i fyfyrwyr, Push.co.uk
  • Rydyn ni’n cydweithio gyda busnesau a diwydiant i
    • ddatblygu Canolfan y Celfeyddydau ac Arloesi. Bydd y project £36m yn cynnwys theatr, mannau arddangos ac Undeb y Myfyrwyr newydd i'r Brifysgol.
    • ddatblygu projectau gyda phroffil uchel fel CAST (Canolfan Technoleg Meddalwedd blaengar) ym Mharc Menai, Bangor a’r Technium OpTIC ym mharc busnes Llanelwy
  • Mae gennym gysylltiadau agos gyda’r GIG yng Nghymru. Mae’r Brifysgol yn darparu nifer helaeth o hyfforddiant ac addysg i’r GIG. Hefyd, mae’r Brifysgol yn un o’r prif bartneriaid yn Ysgol Glinigol newydd Gogledd Cymru
  • Fel un o’r darparwyr mwyaf mewn hyfforddiant athrawon yng Nghymru, mae gennym gysylltiadau agos gydag ysgolion, awdurdodau addysg lleol ac athrawon
  • Mae ein Rhaglen Dawn a Chyfle (TOP) yn un o’r rhaglenni ehangu mynediad mwyaf yn y wlad, gan gynnwys dros 1500 o ddisgyblion o ysgolion ar hyd a lled gogledd Cymru
  • Fel un o sefydliadau partner Prifysgol Gymuned Gogledd Cymru, mae Bangor yn ymwneud â’r rhaglen Ymgeisio’n Uwch, Ymgeisio’n Ehangach sy’n gweithredu yn y rhanbarth.
  • O gymharu â phrifysgolion eraill drwy Brydain mae gan Fangor un o’r systemau Arweinwyr Cyfoed mwyaf ac un o’r graddfeydd isaf o bobl sy’n rhoi'r gorau i'w cwrs
  • Mae cyfradd troseddau gogledd Cymru yn cael ei ystyried yn un o’r isaf ym Mhrydain
  • Mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cael ei chydnabod yn genedlaethol fel un o’r gwasanaethau gyrfaoedd mwyaf gweithgar yn y DU
  • Costau Byw isel - Mae byw yma yn rhad o gymharu â chostau byw mewn nifer o ddinasoedd a threfi prifysgol eraill. Yn ôl ‘A-Z of Universities and Higher Education Colleges’ papur newydd ‘The Independent’, Bangor yw un o’r “llefydd rhataf ym Mhrydain” ar gyfer myfyrwyr. Cafodd Bangor hefyd ei enwi y 4ydd lleoliad mwyaf cost effeithiol gan 'The Independant' yn y Student Living Index Guide for 2008