UWB Crest

Gwybodaeth am y Brifysgol

Rhagoriaeth Ymchwil

Delwedd yn dangos myfyrwyr yn cynnal gwaith ymchwil mewn Gwyddor Chwaraeon
Mae gan Brifysgol Bangor sylfaen ymchwil gadarn sy'n rhychwantu amrediad o ddisgyblaethau academaidd. Yma y gwneir ymchwil ar lefelau Cenedlaethol a Rhyngwladol ac mae'r Brifysgol yn dal i ddatblygu arbenigaethau academaidd sy'n cael effaith fyd-eang. Mae'r Brifysgol yn darparu cymorth cadarn ar gyfer gweithgareddau ymchwil gan gynnwys hybu cysylltiadau â chyrff masnachol a diwydiannol yn y DU a thramor. Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn ceisio ymateb i anghenion lleol a rhanbarthol ac mae'n arbennig o ymwybodol o'i swyddogaeth fel adnodd ymchwil a chanolfan hyfforddiant ar gyfer y Gogledd.

Bydd ymchwil yn cael ei gwneud naill ai'n uniongyrchol yn yr Ysgolion Academiadd a restrir isod neu mewn Canolfannau a Sefydliadau Ymchwil sy'n gysylltiedig ag un Ysgol neu fwy.

Rhagoriaeth Ymchwil

Mae dadansoddiad o’r Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf (RAE 2008), sy’n mesur ansawdd ymchwil Prifysgolion, wedi nodi bod ymchwil gyda’r orau yn y byd yn cael ei gwneud ymhob un o'n 19 maes pwnc a aseswyd, gyda bron 50% yn cael y raddfa uchaf o 3* a 4*

Gwybodaeth bellach

Am fwy o wybodaeth ynglyn ag ymchwil ym Mangor, ewch i dudalenau'r Swyddfa Ymchwil.