Canolfan Access Bangor

Croeso i wefan y Ganolfan Access. Yma, cewch wybodaeth am y gwasanaethau y mae’r Ganolfan yn eu cynnig, a sut y gellwch eu defnyddio.
Rydym yn ymdrin yn bennaf â cheisiadau am y Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA), ac mae’r rhan fwyaf o’r wefan hon yn ymwneud ag egluro’r drefn o ran gwneud cais.
Rydym yn darparu Asesiadau Anghenion Astudio ar gyfer myfyrwyr sydd â hawl i dderbyn y LMA. Mae hyn yn golygu siarad â chi ynglyn â’ch anabledd a’r rhwystrau a gewch, ac yna argymell y strategaethau a’r cyfarpar ategol a fydd yn eich galluogi i gael addysg ar yr un lefel â’ch cyd-fyfyrwyr.
Mae’r Ganolfan Access ym Mangor yn cydweithio mewn cysylltiad agos â’r staff ym Mhrifysgol Aberystwyth, fel y gellir cynnal asesiadau yn y naill leoliad neu’r llall. Bydd mwy o wybodaeth am Ganolfan Aberystwyth ar gyfer Estyn Braich ar gael cyn hir ond, yn y cyfamser, os ydych am gael asesiad yn Aberystwyth, cysylltwch â gweinyddwr Aberystwyth os gwelwch yn dda.
Hygyrchedd a’r wefan hon
Mae’r wefan hon wedi ei chreu mewn modd sy’n caniatáu i chi newid maint y ffont, lliw'r ffont a’r lliwiau cefndirol a gosodiadau arddangos eraill gyda gosodiadau porwyr safonol, yn yr un modd â gwefan y W3C Web Accessibility Initiative Content Accessibility Guidelines sy'n amlinellu safonau gofynnol ac arfer da ar gyfer creu gwefannau hygyrch.
Rydym yn darparu'r offer ar y sgrin er mwyn eich galluogi i wneud hyn. Er hyn, dylwch fod yn ymwybodol nad yw pob gwefan yn darparu'r offer ac felly mae defnyddio offer sydd ar borwyr safonol i wneud hyn yn cynyddu hygyrchedd gwefannau eraill.
Dysgwch sut i newid maint y ffont, lliwiau a gosodiadau arddangos eraill ar ein tudalen offer hygyrchedd porwyr: