UWB Crest

Llety

Talu am eich neuadd

Delwedd yn dangos myfyrwyr yn cerdded ar safle Ffriddoedd

Bydd rhaid i chi dalu blaendal o £300.00 pan fyddwch yn llofnodi’ch Cytundeb Preswylio.  Darllenwch Amod Preswylio 2.2 i gael gwybodaeth lawn o safbwynt y blaendal yma y gellir ei dalu gyda siec neu gerdyn credyd/debyd.   Mae’n rhaid i chi dalu’r blaendal i sicrhau bod yr ystafell yn cael ei chadw i chi.

Cewch dalu ffioedd eich llety yn llawn pan gyrhaeddwch neu wrth gofrestru, neu mewn rhandaliadau drwy ddebyd uniongyrchol. Bydd gennych gyfrif gyda Phrifysgol Bangor a rhoddir yr holl ffioedd llety a’r ffioedd hyfforddi ar y cyfrif hwn.  Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis gwneud taliad i’r Brifysgol mewn tri rhandaliad drwy ddebyd uniongyrchol.  Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn anfon manylion llawn atoch pan gewch eich derbyn i’r Brifysgol a gallwch eu gweld hefyd ar wefan y Swyddfa Gyllid.