Uwch Wardeniaid
Mae Uwch Wardeniaid yn aelodau o staff y Brifysgol sy’n byw yn y Neuaddau Preswyl, neu’n agos iawn atynt mewn llety sy'n eiddo i'r Brifysgol. Maent yn goruchwylio tîm o Wardeniaid. Pan fydd swyddi gwag ar gael byddant yn cael eu hysbysebu ar dudalennau Mewnrwyd y Brifysgol. Rhaid i holl Uwch Wardeniaid fod yn aelodau presennol o staff y Brifysgol. Ar hyn o bryd NI ALL myfyrwyr fod yn Uwch Wardeniaid.
Wardenaid
Bob gwanwyn bydd y Brifysgol yn recriwtio Wardeniaid newydd i ddechrau gwaith y mis Medi canlynol. Disgwylir i wardeniaid fod yn aeddfed eu hagwedd ac yn aml maent yn fyfyrwyr ôl-radd neu israddedigion hŷn, er nad yw hynny’n wir ym mhob achos. MAE’N RHAID i wardeniaid fod yn fyfyrwyr cofrestredig LLAWN-AMSER yn y Brifysgol.
Bydd y Tîm Wardeniaid yn cynnal o leiaf ddwy Noson Agored lle gall myfyrwyr sydd â diddordeb gael sgwrs â Wardeniaid ac Uwch Wardeniaid presennol i weld beth yw natur y swydd. Yna gwahoddir ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb a gofynnir iddynt ddarparu llythyr cais a CV. Llunnir rhestr fer a gwahoddir yr ymgeiswyr llwyddiannus am gyfweliad.
Hysbysebir y Nosweithiau Agored ar Fewnrwyd y Brifysgol a hysbysebir y swyddi bob amser ar We-dudalennau'r Brifysgol.
Rhaid i bob Warden llwyddiannus gael gwiriad CRB a disgwylir iddynt ddod i wythnos hyfforddi orfodol ym mis Medi. Cynhelir hon yr wythnos cyn Wythnos y Glas.
Ar hyn o bryd mae Wardeniaid yn cael ystafell sengl am ddim mewn neuadd breswyl a disgwylir iddynt wneud dyletswyddau (weithiau ar sail rota) yn ôl cyfarwyddyd Uwch Warden.
Weithiau bydd angen penodi warden yn ystod y sesiwn academaidd. Hysbysebir y swyddi hyn bob amser ar We-dudalennau'r Brifysgol.