UWB Crest

Llety

Cwestiynau cyffredinol - israddedigion

Image of a question mark

Cliciwch ar y cwestiynau isod i ddarllen yr atebion;

Atebion

C: Rwyf wedi derbyn lle yn y Brifysgol. Pa bryd bydda i'n gwneud cais am lety?

A: Fel rheol, byddwn yn e-bostio’r holl wybodaeth y byddwch ei angen atoch yn ystod y mis Mehefin cyn i chi ddod i’r Brifysgol. Byddwn yn gofyn i chi fynd ar-lein a gwneud cais erbyn 31 Gorffennaf.  Bydd pob cais yn cael ei wneud ar-lein. Os byddwch oddi cartref yr adeg honno ac eisiau i aelod o’ch teulu wneud y cais yn eich lle, gwnewch yn siŵr bod gan y Brifysgol gyfeiriad e-bost cyfredol i chi.

C:  A oes angen i mi roi gwybod i chi os oes gennyf anabledd a fydd yn effeithio ar y math o lety y byddaf ei angen?

A: Cofiwch nodi ar eich cais unrhyw gyflwr meddygol neu gyflwr arall y mae angen ei ystyried wrth bennu llety i chi.  Dylech nodi anghenion o’r fath ar y ffurflen gais, hyd yn oed pe na byddent yn berthnasol petaech yn cael ystafell mewn neuadd sy’n ateb eich holl ofynion. Dim ond gwybodaeth a roddir ar adeg y cais, ynghyd â chadarnhad ysgrifenedig gan feddyg teulu neu gan gorff proffesiynol arall, a ystyrir gan y Swyddfa Neuaddau wrth bennu lle. Delir â’r holl wybodaeth meddygol a roddir yn gyfrinachol. Hyd yn oed os byddwch eisoes wedi cysylltu â’r Cynghorwr Anabledd o safbwynt anghenion arbennig oherwydd anabledd / problem iechyd, mae’n rhaid i chi barhau i gynnwys gwybodaeth a thystiolaeth feddygol ategol pan fyddwch yn gwneud eich cais.  Os anghofiwch ddweud rhywbeth o bwys wrthym, efallai na fydd yn bosib i ni newid eich ystafell yn nes ymlaen.

Defnyddir gwybodaeth am anableddau at ddibenion pennu llety addas yn unig. Ni allwn warantu y bydd cyfleusterau addas ar gael. Hoffem annog myfyrwyr sydd ag anableddau, gan gynnwys anableddau ‘cudd’, fel epilepsi neu glefyd siwgr, i gysylltu â’r cynghorwr anabledd ar y rhif Ffôn. 44 (0)1248 382570, ffôn testun 44 (0)1248 371811, neu e-bost aos805@bangor.ac.uk. Bydd y cynghorwr yn gallu trafod unrhyw anghenion am gymorth a fydd gennych, yn ogystal â’ch cymhwyster ar gyfer cyllid ychwanegol.

C: Rydw i’n cadw cynnig o le gan Brifysgol Bangor fel fy newis wrth gefn.  Ddylwn i barhau i wneud cais?

A: : Gwnewch gais erbyn 31 Gorffennaf os gwelwch yn dda. Yna, os byddwch yn penderfynu dod i Fangor, bydd y wybodaeth sydd arnom ei hangen i brosesu’ch cais eisoes gennym. Os byddwch chi’n aros tan ar ôl eich canlyniadau arholiadau i wneud cais, ni fyddwn yn gallu sicrhau y gallwn ddod o hyd i ystafell i chi.

C: A fydd angen i mi dalu ffi ymgeisio?

A: Mae’n RHAID i fyfyrwyr rhyngwladol anfon blaendal o £300 wrth wneud cais am lety (at ddibenion ffioedd).  Rhaid talu’r ffi yma gyda throsglwyddiad banc neu gyda cherdyn credyd/debyd pan fyddwch yn gwneud cais.  Mae gwybodaeth lawn ar gael pan fyddwch yn gwneud eich cais ar-lein. 

SYLWCH:

  • Os byddwch yn penderfynu peidio dod i Brifysgol Bangor neu os byddwch yn newid eich meddwl fel na bydd angen llety arnoch, mae’n rhaid i chi roi gwybod trwy lythyr (nid e-bost) i’r Swyddfa Neuaddau erbyn 7 Medi 2012 fan bellaf. 
  • Cynigir pob ystafell ar y ddealltwriaeth y byddwch yn aros ac yn talu am yr ystafell am y cyfnod cyfan fel y nodir yn y Cytundeb Preswylio. Pan fyddwch yn cyrraedd Bangor, ac ar ôl i chi gael eich ystafell, bydd eich ffi gwneud cais yn cael ei gadw fel blaendal a rhagdaliad ffioedd. 

Os byddwch yn methu â chanslo’ch cais am lety cyn 7 Medi, neu os byddwch yn methu â chymryd yr ystafell ar ôl iddi gael ei pennu i chi, byddwch yn colli eich ffi gwneud cais/blaendal.  Dylech nodi y bydd ystafelloedd a bennir yn cael eu cadw am 4 diwrnod yn unig ar ôl 23 Medi 2012 – edrychwch ar amod 2.2 o’r Amodau Preswylio.

C:  Rwy’n gobeithio dod i Fangor yn ystod misoedd yr haf i astudio ar gwrs iaith Saesneg cyn-sesiynol yn ELCOS.  A oes rhaid i mi barhau i wneud cais am lety?

A:  Oes, mae’n rhaid i chi wneud cais.  Bydd unrhyw lety a gynigir i chi yn y Brifysgol tra byddwch yn astudio ar gwrs cyn-sesiynol ar gyfer cyfnod y cwrs hwnnw’n unig.   Mae'n RHAID i chi wneud cais ar-lein drwy’r wefan hon os ydych angen llety'r Brifysgol ar gyfer sesiwn academaidd 2012-13. Mae'n debygol na chewch aros yn yr un ystafell ar gyfer sesiwn 2012-13 â’r ystafell y byddwch yn byw ynddi tra byddwch yn astudio cwrs cyn-sesiynol.  Bydd y Swyddfa Neuaddau yn cysylltu â chi ar ddiwedd gwyliau'r haf i egluro'r drefn o safbwynt symud i'ch ystafell newydd.  Mae’n rhaid i chi gofio ateb pob llythyr a anfonir atoch a darllen eich cyfrif e-bost â’r Brifysgol yn rheolaidd.

C:  A oes angen i mi roi gwybod i chi y byddaf yn byw gartref?

A: Na, nid oes angen i chi wneud hynny..  Anwybyddwch yr holl wybodaeth a anfonir atoch am lety Prifysgol.

C: Beth os nad ydw i’n dymuno byw mewn neuadd breswyl y Brifysgol?

A: Mae neuaddau preswyl yn cynnig ystafelloedd ar gyfer y flwyddyn academaidd lawn yn unig. Rydym yn eich annog i ddewis lle mewn neuadd, ond efallai y bydd rhai myfyrwyr, e.e. myfyrwyr hŷn neu fyfyrwyr â theuluoedd, angen rhentu’n breifat. Mae Swyddfa Tai Myfyrwyr y Brifysgol ar wahân i’r Swyddfa Neuaddau; mae’n cadw cronfa ddata o lety preifat ac yn rhoi gwybodaeth a chymorth.

Ffôn: 44 (0)1248 382034   
 E-bost: studenthousing@bangor.ac.uk

C: Ydi’r Brifysgol yn darparu llety i deuluoedd?

A: Mae’r Brifysgol yn adolygu’r ddarpariaeth lety i deuluoedd. Cysylltwch â’r Swyddfa Neuaddau am wybodaeth bellach. halls@bangor.ac.uk

C: Ydi’r Brifysgol yn darparu unrhyw lety ar gyfer myfyrwyr hŷn yn benodol?

A: Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn neilltuo nifer fechan o lety ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd eisiau amgylchedd tawelach.   Byddwn yn rhoi manylion ar ein gwefan pa neuaddau a ddynodwyd yn neuaddau ‘tawel’.  Gall y rhain apelio’n arbennig at fyfyrwyr hŷn, ond nid yn gyfan gwbl felly.   Mae’n bosib y bydd gormod o bobl yn gwneud cais i fyw yn yr ystafelloedd hyn, felly ni allwn addo y gallwn gyflawni eich dymuniad.

Byddwn yn gwneud ein gorau i ddweud wrth yr holl breswylwyr yn yr ystafelloedd hyn ein bod ni’n disgwyl amgylchedd tawelach, ond dylai’r holl breswylwyr werthfawrogi nad oes unrhyw fath o fyw cymunedol yn hollol dawel, ac mae’n anodd iawn diffinio ‘tawel’. Mi fydd yn wastad yn fwy swnllyd na byw yn eich cartref eich hun. Yn ogystal, ni fydd bob amser yn bosibl rheoli faint o sŵn a ddaw o’r tu allan i’r neuadd neu’r coridor, a all fod y tu hwnt i’n rheolaeth.

C:  A fyddwch yn cydnabod fy nghais am lety?

A: Pan fyddwch wedi anfon eich cais ar-lein byddwch yn derbyn e-bost yn cydnabod eich cais.  Os na fyddwch chi’n derbyn yr e-bost, yna gwiriwch eich bod chi wedi cyflwyno’ch cais yn gywir.  Os nad ydych yn siŵr, ffoniwch y Swyddfa Neuaddau ar 01248 382667.

C: Rydych wedi anfon gwybodaeth am lety ataf, ond rwyf wedi penderfynu gohirio cymryd fy lle yn y Brifysgol?

A:  Anwybyddwch y wybodaeth am lety.  Byddwn yn cysylltu â chi eto yn ystod y Mehefin cyn i chi ddechrau yn y Brifysgol. Ond, awgrymwn eich bod yn cysylltu â’r Swyddfa Dderbyniadau (01248 382018) i sicrhau bod eu cofnodion yn gywir a'u bod yn deall eich bod yn gohirio cymryd eich lle.

C: Pan fyddaf yn derbyn canlyniadau fy arholiadau, a oes angen i mi roi gwybod i chi y byddaf yn bendant yn dod i'r Brifysgol.

A: Mae’r Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod yn awtomatig i’r Swyddfa Neuadau am bawb sy’n dod i’r Brifysgol.  Os ydych wedi gwneud cais am ystafell byddwn yn dechrau prosesu’ch cais cyn gynted ag y cawn wybod gan y Gofrestrfa Academaidd eich bod wedi cael cynnig lle Pendant Diamod (UF) yn y Brifysgol.

C: Gobeithiaf ddod i Fangor gyda ffrind – allwn ni wneud cais am ystafelloedd gyda’n gilydd?

A: Gellwch roi manylion UN ffrind i ni pan fyddwch yn gwneud cais.   Bydd angen i chi wybod enw llawn eich ffrind a’i Rif Derbyn Prifysgol Bangor, yn ogystal â’ch rhif eich hun.   Fodd bynnag, ni allwn warantu y byddwn yn eich rhoi gyda’ch gilydd.  Rhaid i chi’ch DAU nodi eich bod am gael eich gosod gyda’ch gilydd.   Os bydd un ohonoch yn unig yn gofyn am hyn caiff y cais ei anwybyddu.   Mae profiad wedi dangos i ni mai’r peth gorau yn aml yw PEIDIO â gofyn am ystafell wrth ymyl ffrind.   Rydych yn fwy tebygol o wneud ffrindiau newydd a chael profiadau newydd os byddwch (fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr newydd) ar eich pen eich hun. Bob blwyddyn rydym ni’n dod ar draws myfyrwyr sydd wedi gofyn am gael eu rhoi wrth ymyl ffrind neu bartner a rhan o’r ffordd drwy’r flwyddyn nid ydynt yn dymuno bod yn y sefyllfa yma mwyach, ac nid oes llawer y gallwn ni ei wneud yn aml i ddatrys y sefyllfa os nad oes gennym ystafelloedd sbâr ar gael.  Meddyliwch yn ofalus iawn cyn i chi ofyn am gael ystafell wrth ymyl ffrind neu bartner presennol.

C: Allwch chi warantu math penodol o ystafell  i mi?

A: Mae'r Brifysgol yn gwarantu y bydd yn cynnig llety i bob myfyriwr israddedig sengl ar gyfer eu blwyddyn gyntaf ym Mangor, os byddant yn gwneud cais cyn 31 Gorffennaf 2012. Pan fyddwch yn gwneud eich cais, gofynnwn i chi ddewis hyd at 3 neuadd yr hoffech fyw ynddynt.  Fe wnawn bob ymdrech i bennu llety o'ch dewis i chi, ond efallai na fydd hyn yn bosib os bydd eich neuaddau dewisol wedi’u gordanysgrifio. Pan na fydd hyn y bosib byddwn yn defnyddio’r dewisiadau a nodwyd gennych i'n helpu i bennu i chi’r math o lety y byddai orau gennych.

C: Sut mae ystafelloedd yn cael eu pennu?  

A: Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig lle i chi mewn neuadd o’ch dewis.  Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn bosibl ac mae amrywiadau mewn galw o un flwyddyn i’r llall yn ei gwneud yn amhosib rhagweld pa fath o neuadd fydd wedi’i hordanysgrifio. Efallai y cynigir llety i chi weithiau na nodwyd gennych fel eich dewis. Ni bennir ystafell ar gyfer myfyrwyr hyd nes y bydd ei le yn y Brifysgol wedi ei gadarnhau ac ni phennir unrhyw ystafell cyn dechrau Awst.  Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau yn unol â’r drefn hon o gategorïau derbyn.

  • Cynnig Pendant Diamod
  • Cynnig Pendant Amodol
  • Cynnig Amodol Wrth Gefn
  • Clirio

O fewn pob categori, rhoddir ystyriaeth hefyd i’r dyddiad y derbynnir pob cais gan y Swyddfa Neuaddau.  Mae’r dyddiad y daw eich cynnig yn un Diamod hefyd yn bwysig iawn yn y broses pennu lle. 

Rydym yn gwarantu llety mewn neuadd breswyl i fyfyrwyr israddedig newydd ond mae'n bosib y bydd rhai neuaddau'n llawn erbyn yr adeg y bydd ceisiadau hwyr yn cael eu prosesu.  Mae rhai neuaddau’n cael eu llenwi’n gyflym iawn ac ni ellir gwarantu lle mewn neuadd benodol i unrhyw fyfyriwr mewn unrhyw gategori.  Os byddwch chi’n gwneud cais hwyr (ar ôl 31 Gorffennaf) ni allwn warantu ystafell i chi ac efallai y bydd hi’n cymryd dipyn o amser cyn i ni allu dweud wrthych a oes unrhyw ystafelloedd ar gael.

Fodd bynnag, rydym yn sylwi bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr Bangor yn mwynhau byw yn y llety y cynigir iddynt, beth bynnag bo’u dewis gwreiddiol.

C: Nid wyf wedi derbyn unrhyw wybodaeth am lety hyd yma?

A: Fel rheol, bydd darpar fyfyrwyr yn derbyn gwybodaeth llety, sy’n eu gwahodd i wneud cais, cyn diwedd Mehefin.  Os ydych yn gwneud cais hwyr i’r Brifysgol, mae’n bosib y byddwch yn cael gwybodaeth llety yn ddiweddarach.  Os ydych yn poeni oherwydd nad ydych wedi derbyn y wybodaeth, dylech anfon e-bost at y Swyddfa Neuaddau halls@bangor.ac.uk GAN DDYFYNNU’CH RHIF ADNABOD GAN Y BRIFYSGOL, i gael cyngor pellach. Anfonir gwybodaeth am lety bob amser drwy e-bost, felly cofiwch edrych yn eich cyfrif e-bost a gofalu bod eich cyfeiriad e-bost cyfredol gan y Brifysgol. Gellwch anfon e-bost at y Swyddfa Neuaddau bob amser i ddiweddaru eich cyfeiriad e-bost.

C:  Rwyf yn ymgeisydd hwyr / ymgeisydd clirio ar gyfer y Brifysgol.  A fydd hi’n dal yn bosib i chi warantu llety i mi?

A:  Os ydych yn ymgeisydd hwyr neu’n ymgeisydd Clirio, gofynnwn i chi wneud cais cyn gynted â phosib.  Ni allwn sicrhau y byddwn yn cael hyd i ystafell i chi os na fyddwch wedi gwneud cais erbyn 31 Gorffennaf 2012. Fodd bynnag, mae’n bur debygol y bydd gennym ystafelloedd ar gael o hyd i fyfyrwyr a fydd yn gwneud cais ar ôl y dyddiad hwn. Cofiwch na fyddwn ni’n gallu dweud wrthych ar unwaith os bydd ystafelloedd ar gael, ac efallai mai dim ond dewis cyfyngedig iawn o ystafelloedd fydd ar ôl.

C: Nid ydych wedi rhoi gwybod i mi hyd yma ble y byddaf yn byw.

A: Fel rheol, nid ydym yn pennu UNRHYW ystafell hyd ddechrau Awst a gwneir mwyafrif y gwaith pennu ystafelloedd yn dilyn canlyniadau Lefel A ganol Awst.  Ni phennir ystafell i chi hyd nes y bydd eich lle yn y Brifysgol yn gynnig diamod (UF).  Mae hon yn broses sylweddol ac efallai na fyddwn yn cysylltu â chi hyd ddechrau Medi neu’n ddiweddarach hyd yn oed.  A wnewch chi sicrhau eich bod yn edrych ar eich e-bost yn aml yr adeg yma, oherwydd byddwn yn gofyn i chi gadarnhau yn gyflym iawn eich bod yn derbyn yr ystafell sydd wedi ei phennu i chi a byddwn yn gofyn i chi am flaendal. Os na fyddwch yn ateb o fewn yr amser penodedig, gall eich ystafell gael ei rhoi i fyfyriwr arall.  Os byddwch yn mynd i ffwrdd ar wyliau, gofalwch eich bod yn medru mynd at eich e-bost ac at y rhyngrwyd. Gwiriwch hefyd eich bod chi wedi gwneud eich cais yn gywir a’ch bod wedi derbyn e-bost yn cydnabod derbyn y cais gennym ni.  Ni ellir dal y Brifysgol yn gyfrifol am geisiadau na chawsant eu gwneud yn gywir.

C: Beth fydd angen i mi ei wneud pan fyddwch yn rhoi gwybod i mi ble y byddaf yn byw?

A: Yn Awst neu ym Medi anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi logio i mewn i’n gwefan unwaith eto.   Cewch eich cyfeirio at fanylion am eich Cytundeb Preswylio a fydd yn rhoi rhif eich ystafell i chi, y neuadd y byddwch ynddi a’r costau dan sylw. Darllenwch yr holl wybodaeth yma’n ofalus os gwelwch yn dda. PEIDIWCH â derbyn eich Cytundeb Preswylio heb ei ddarllen i gyd oherwydd mae’n eich hymrwymo’n gyfreithiol.

Sylwch:

Mae myfyrwyr sy’n cytuno i gymryd llety sy’n eiddo i’r Brifysgol, neu sy’n cael ei osod neu ei reoli gan y Brifysgol yn derbyn Cytundeb Preswylio sy’n eu hymrwymo’n gyfreithiol. Dylai myfyrwyr nad ydynt yn sicr ynghylch ymrwymo i’r Cytundeb Preswylio geisio cyngor cyn llofnodi. DYLAI MYFYRWYR DDARLLEN YR AMODAU PRESWYLIO YN OFALUS A SICRHAU EU BOD YN BAROD I GYTUNO IDDYNT CYN DERBYN Y CYTUNDEB PRESWYLIO. Daw’r Cytundeb Preswylio dan gyfraith Lloegr ac efallai y bydd myfyrwyr tramor yn ei gweld yn bur wahanol i’r gyfraith sydd mewn grym yn eu gwledydd eu hunain. Cewch ddarllen yr Amodau Preswylio ar-lein ar www.bangor.ac.uk/accommodation a dilyn y cysylltiadau ar gyfer Pethau Pwysig 2012-13.

Pan fyddwch wedi darllen a deall y Cytundeb Preswylio a’r Amodau Preswylio, dylech roi eich caniatâd ar-lein.   Yna gofynnir i chi dalu blaendal o £300.00. Nid oes rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol sydd eisoes wedi talu ffi gwneud cais dalu blaendal arall. Gellwch dalu’r blaendal â cherdyn credyd/debyd neu drefnu i dalu drwy drosglwyddiad banc. Os na fyddwch yn talu blaendal byddwch yn colli eich ystafell.

C: Beth sy’n digwydd os nad ydw i’n hapus gyda’r llety a gynigir i mi?

A: Fel rheol, dim ond un cynnig o lety y gallwn ei wneud i chi.  Fodd bynnag, os nad ydych yn hapus â’r lle’r ydych yn byw pan gyrhaeddwch Bangor, gellwch roi’ch enw ar restr aros am ystafell wahanol os bydd un ar gael.  Fel rheol, mae’n cymryd amser i ymgartrefu yn eich llety, felly ar ôl i chi gyrraedd, dylech roi ychydig o amser i hynny cyn rhoi’ch enw ar y rhestr aros.  Gellir gwneud ceisiadau am y rhestr aros AR ÔL pythefnos gyntaf y sesiwn yn unig (hysbysebir y dyddiad yn y Swyddfa Neuaddau). Ni ellwch wneud cais cyn i chi gyrraedd nac ar y diwrnod y byddwch yn cyrraedd.

C: Alla i gael fy rhyddhau o’m Cytundeb Preswylio yng nghanol semester i symud i mewn i’r sector preifat neu i fynd yn ôl i fyw gartref?

A: Na, nid yw hyn yn bosib fel rheol. Byddwch wedi derbyn Cytundeb Preswylio am y sesiwn academaidd gyfan. Edrychwch ar amod preswylio 5.3 yn www.bangor.ac.uk/accommodation a dilynwch y cysylltiadau i ‘Pethau Pwysig 2012-13’.

C: A fydd fy eiddo wedi’i yswirio?

A: Mae’r Brifysgol wedi trefnu yswiriant cynnwys sylfaenol gan ‘Endsleigh Insurance’ ar gyfer myfyrwyr sy’n byw mewn neuadd breswyl ac mae’r premiwm wedi’i gynnwys yn awtomatig ym mhris yr ystafell.  Gellwch weld y polisi hwn unrhyw bryd a dylech sicrhau wrth gyrraedd ei fod yn rhoi’r yswiriant sydd ei angen arnoch a’ch bod yn ei ymestyn fel bo’r angen a chi fydd yn gyfrifol am dalu am hwnnw.

C: A fydd ffôn a chysylltiad rhyngrwyd ar gael yn fy ystafell?

A: Nid yw’r Brifysgol yn darparu ffôn mewn unrhyw ystafell.  Mae cysylltiad rhyngrwyd ar gael ym mhob ystafell ac mae’r gost am hyn wedi ei chynnwys  yn y ffioedd Neuaddau.

C: Beth Ddylwn i Ddod Gyda Mi?

A: Nid oes llawer o le i gadw pethau mewn ystafelloedd myfyrwyr mewn unrhyw brifysgol. Rydym yn argymell eich bod yn dod â’r pethau yr ydych yn eu hystyried yn hanfodol y unig. Os anghofiwch unrhyw beth, mae digon o siopau ym Mangor. Cofiwch y bydd rhaid i chi wagio’ch ystafell yn gyfan gwbl dros y Pasg mewn ambell lety, felly peidiwch â dod ag unrhyw beth na ellwch fynd ag ef adref yn rhwydd. Dyma rai pwyntiau allweddol:-

  • Ni ddarperir dillad gwely, ond gallwch brynu pecynnau dillad gwely pan gyrhaeddwch (duvet, gorchudd duvet, cynfas, gobennydd a gorchudd gobennydd). Bydd myfyrwyr sydd mewn ystafelloedd en-suite angen llenni cawod, a gallwch brynu’r rhain pan gyrhaeddwch.
  • Bydd angen Tystysgrif Prawf Offer Cludadwy ar gyfer offer trydanol sydd dros flwydd oed.
  • Mae’n ddrwg gennym nad oes lle ar gael i gadw eiddo dros ben, bagiau mawr, nac ar gyfer eiddo myfyrwyr sy’n gadael dros wyliau’r haf.
  • Bydd myfyrwyr hunanarlwyo angen dod â llestri, sosbenni a chyllyll a ffyrc gyda nhw, oherwydd ni ddarperir y rhain.

Mae synnwyr digrifwch, goddefgarwch tuag at gymdogion a pharodrwydd i roi cynnig ar bethau newydd, gan gynnwys dechrau sgyrsiau gyda dieithriaid llwyr, i gyd yn ddefnyddiol.

C: Gaf i ddod â theledu?

A: Mae croeso i chi ddod â theledu gyda chi ond byddwch angen eich trwydded eich hun.  Ni allwn sicrhau y bydd derbyniad da ym mhob un o'n hystafelloedd ac nid ydym fel rheol yn darparu cyswllt erial.   Bydd angen i chi gael erial i'w ddefnyddio i mewn bron bob amser. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis gwylio teledu drwy eu cyfrifiaduron, ond cofiwch bod angen trwydded os ydych chi’n gwylio teledu byw. Cewch ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau teledu byw sydd ar gael ar ResNet yma.

C: Alla i gysylltu eitemau fel consol gemau, chwaraewr cyfryngau a dyfeisiau eraill sydd wedi eu rhwydweithio â ResNet?

A: Gallwch fel rheol.  Mae manylion ynghylch sut i gysylltu dyfeisiau eraill heblaw eich cyfrifiadur â ResNet ar gael yma.

C: Gaf i ddod â physgodyn aur, cocatŵ, neidr neu hamster gyda mi?

A: Ni chaniateir anifeiliaid anwes o unrhyw fath yn y neuaddau.

C: Gaf i ddod â char neu feic?

A: Mae nifer cyfyngedig o drwyddedau meysydd parcio ar gael ar gyfer parcio ar y safle. Fel arall, bydd yn rhaid i chi barcio ar y stryd, yn aml beth pellter o’ch neuadd. Mae ychydig o lefydd ar gael i gadw beiciau, OND ni ddylid cadw beiciau i mewn yn y neuaddau, gan gynnwys yn eich ystafell wely.

C: Oes unrhyw beth na chaniateir i mi ddod gyda mi?

A: Oes, mae ychydig o bethau na chaniateir:

  • Peidiwch â dod â gwresogyddion, canhwyllau, lampau olew, ffyn arogldarthu, offer coginio trydanol nac oergelloedd i’w defnyddio yn eich ystafell wely. Cewch ddod ag oergell fechan at ddibenion meddygol yn unig.  Cysylltwch â’r Swyddfa Neuaddau i gael caniatâd.
  • Peidiwch â dod ag arfau o unrhyw fath – dim replica hyd yn oed.
  • Peidiwch â dod â dodrefn, e.e. gwely, wardrob neu gadair freichiau – fyddan nhw ddim yn ffitio!
  • Ni chaniateir anifeiliaid anwes o unrhyw fath.  Mae hyn yn cynnwys pysgod. 

C: Beth os ydw i’n fyfyriwr yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd sydd â dyddiadau semester ansafonol?

A: Darllenwch yr adran ar ein gwefan ar gyfer Myfyrwyr Nyrsio. Fel rheol byddwn yn rhoi myfyrwyr o’r Ysgol hon mewn un Neuadd Breswyl a fydd yn aros yn agored gydol y flwyddyn pan fydd ei hangen ar nyrsys a bydwragedd. Yn achlysurol, os nad oes unrhyw lefydd gwag yn y neuadd hon bydd rhaid rhoi’r myfyrwyr nad oes lle iddynt mewn neuaddau a fydd yn cau dros wyliau’r haf.   Yna, byddwn yn cael hyd i lety arall ar gyfer nyrsys a bydwragedd am weddill eu cyfnod astudio.

C: Sut ydw i’n talu am fy llety?

A: Bydd rhaid i chi dalu blaendal o £300.00 pan fyddwch yn derbyn eich Cytundeb Preswylio.  Darllenwch Amod Preswylio 2.2 - ewch i www.bangor.ac.uk/accommodation a dilynwch y cysylltiadau i ‘Pethau Pwysig 2012-13 - i gael gwybodaeth lawn am y blaendal yma.  Mae’n rhaid i chi dalu’r blaendal i sicrhau bod yr ystafell yn cael ei chadw i chi.

Cewch dalu ffioedd eich llety yn llawn pan gyrhaeddwch neu wrth gofrestru, neu mewn rhandaliadau. Bydd gennych gyfrif gyda Phrifysgol Bangor a rhoddir yr holl ffioedd llety a’r ffioedd hyfforddi ar y cyfrif hwn.  Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis gwneud taliad i’r Brifysgol mewn tri rhandaliad.  Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn anfon manylion llawn atoch  yn eich Dyddiadur Wythnos Groeso pan gewch eich derbyn i’r Brifysgol a gallwch eu gweld hefyd ar wefan y Swyddfa Gyllid

C: Beth yw’r trefniadau o safbwynt cyrraedd Bangor ym Medi 2012?

A: Byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ar gyfer cyrraedd y neuadd breswyl gyda’ch Cytundeb Preswylio. Byddwch yn dod i Fangor naill ai dydd Sadwrn 22 Medi NEU dydd Sul 23 Medi, a byddwch yn cael gwybod pa ddiwrnod y dylech gyrraedd pan bennir eich ystafell i chi. Sylwch na fydd yn bosibl i chi ddewis y diwrnod y byddwch yn cyrraedd. A fyddech cystal â chyrraedd ar y diwrnod a nodir, a dilyn y cyfarwyddiadau ynghylch ffyrdd i Fangor a pharcio. Mae 2,000 o fyfyrwyr yn cyrraedd Bangor, hyd yn oed dros ddeuddydd, yn dipyn o ddigwyddiad i Fangor felly byddwch yn amyneddgar a dilynwch gyfarwyddiadau ein staff. Byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu i ymgartrefu mor fuan ag sy’n bosib. 

C: A fydd hi’n bosib i mi gyrraedd yn gynt nag y nodir?

A: Na fydd. Yn anffodus ni fydd y neuaddau’n barod cyn 22/23 Medi.

C: A fydd hi’n bosib i mi gyrraedd yn hwyrach nag y nodir yn fy manylion cyrraedd?

A: Cyn belled â’ch bod wedi talu’r blaendal o £300.00, byddwn yn cadw'r ystafell i chi am 4 diwrnod ar ôl dechrau’r sesiwn – hyd 27 Medi 2012. Os byddwch yn cyrraedd yn hwyrach na hyn mae'n RHAID i chi roi gwybod i’r swyddfa neuaddau neu byddwch yn colli’ch ystafell a’ch blaendal.  Mae ffioedd yn daladwy o ddechrau’r Cytundeb Preswylio yn mhob achos.

C: A fydd hi’n bosib i mi gael anfon fy magiau ymlaen llaw?

A: Peidiwch ag anfon unrhyw beth i’r Brifysgol ymlaen llaw, os gwelwch yn dda. Nid oes cyfleusterau storio ar gael.

C: A oes cyfleusterau storio yn y Brifysgol?

A: Nac oes.  Yn anffodus, ni allwn gynnig storio unrhyw beth yn ystod y gwyliau.

C: Ydi ymwelwyr yn cael dod i’r Neuaddau Preswyl?

A: Mae’r myfyrwyr yn gyfrifol am ymddygiad unrhyw un o’u hymwelwyr i’r neuadd. Caniateir un ymwelydd dros nos am hyd at 2 ddiwrnod ar y mwyaf mewn unrhyw gyfnod o 7 niwrnod.  Disgwylir i ymwelwyr gysylltu â’u cyd-breswylwyr a’u cymdogion cyn gwahodd gwesteion, a rhaid cofrestru bob gwestai.

C: Bydd fy rhieni’n dod â mi i’r Brifysgol.  Oes rhywle y gallant aros?

A: Os byddwch chi neu eich rhieni’n dymuno aros yng Ngogledd Cymru cyn y dyddiad cyrraedd a roddwyd i chi neu wedi hynny, cysylltwch â Thwristiaeth Gogledd Cymru ar + 44(0)1492 531731 neu www.nwt.co.uk am fanylion llety a gymeradwyir gan Fwrdd Croeso Cymru.

C: A oes unrhyw help ar gael os oes gennyf broblemau?

A: Mae gan neuaddau Uwch Wardeiniaid ac Wardeiniaid ar alwad i’ch helpu chi. Yn yr Wythnos Groeso, bydd arweinwyr cyfoed myfyrwyr hefyd ar gael i’ch cynorthwyo. Gall y Swyddfa Neuaddau helpu gydag unrhyw broblemau’n ymwneud â’ch taliadau ystafell neu ffioedd.  Bydd arweinwyr cyfoed ac aelodau o dîm y Warden ar gael pan fyddwch yn cyrraedd.

C: Mae gennyf fwy o gwestiynau – lle alla i gael mwy o wybodaeth?

A: Cysylltwch yn uniongyrchol â’r Swyddfa Neuaddau.

  • Ffôn: 44 (0)1248 382667       
  • Ffacs: 44 (0)1248 371303
  •  E-bost: halls@bangor.ac.uk    

    RHOWCH EICH RHIF UCAS NEU’CH RHIF MYNEDIAD PRIFYSGOL BOB AMSER GYDAG UNRHYW YMHOLIAD.