UWB Crest

Ysgol Addysg

Amdanom Ni

Image of the College of Education and Lifelong Learning staff during graduation

Mae'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn darparu addysg uwch o'r radd flaenaf yn un o ardaloedd godidocaf Prydain. Mae Bangor mewn lleoliad arbennig ac wedi ei amgylchynu â thirwedd fendigedig a golygfeydd gwych. Os ydych chi eisoes â diddordeb brwd mewn gweithgareddau awyr agored fe fyddwch chi’n hapus eich byd gyda’r dewis eang o gyfleoedd ar stepen drws y Brifysgol.

Daeth yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes i fodolaeth yn 2010 yn dilyn integreiddio'r Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes gyda'r Coleg Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes wedi sefydlu enw da ym maes hyfforddi athrawon ac mae'n parhau i addysgu myfyrwyr mewn cyrsiau gradd ac ôl-radd ar gyfer anghenion ysgolion drwy Brydain.

Dan arweiniad staff brwdfrydig mae'r Ysgol yn darparu dewis eang o gyrsiau blaengar yn arwain at dystysgrifau a graddau anrhydedd Prifysgol Bangor ac amrediad o gymwysterau ôl-radd. Cewch ddilyn cyrsiau trwy'r Gymraeg neu'r Saesneg neu'n ddwyieithog. Yng nghyd-destun Ewrop mae'r arbenigrwydd ieithyddol sydd yma yn rhoi dimensiwn cyffrous i'n holl gyrsiau a cheir cyfleoedd niferus i fyfyrwyr ddatblygu cysylltiadau Ewropeaidd. Mae gan yr Ysgol bartneriaeth sydd wedi ei hen sefydlu rhwng y Brifysgol ac ysgolion cynradd ac uwchradd lleol sy'n cynnig amgylchedd hyfforddi llawn amrywiaeth sydd, ar yr un pryd, yn gefnogol.

Yn dilyn blwyddyn o arolwg gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, dyfarnwyd Graddfa 1 i Fangor, sef y raddfa uchaf, am ei heffeithiolrwydd mewn addysgu, hyfforddi, ac asesu darpar-athrawon. Hefyd, nodwyd fod yr Ysgol yn rhoi cyfraniad arbennig at Gymru trwy ei chyrsiau cyfrwng-Cymraeg.

Mae'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn cynnig awyrgylch cyfeillgar braf a bydd myfyrwyr o bob cwr ac o wahanol gefndiroedd yn ymgartrefu yma yn ein plith. Rydym yn cynnig cymdeithas fywiog a chyfoethog gydag adnoddau dihafal ar gyfer eu cyrsiau.