UWB Crest

Ysgol Addysg

Meistr yn y Celfyddydau/Meistr mewn Addysg

Delwedd o fyfyrwyr

Meistr yn y Celfyddydau/Meistr mewn Addysg (rhan-amser hyfforddedig)

gan gynnwys y Tystysgrif i Raddedigion a'r Diploma i Raddedigion)

Os ydych eisoes yn meddu ar radd gyntaf, neu brofiad proffesiynol cyfatebol, y cam rhesymol nesaf yw astudio ar lefel radd Feistr er mwyn elwa ar yr hyn y gall gradd uwch ei roi ichi, megis hybu gyrfa a boddhad personol.

Ers bron i ddeugain mlynedd mae'r Ysgol Addysg (nawr yr Ysgol Addysg) ym Mangor wedi cynnig rhaglen Feistr fodiwlaidd, hyblyg, rhan-amser sy'n cyfarfod ag anghenion proffesiynol a phersonol athrawon, gweithwyr ym maes iechyd, staff gofal cymdeithasol, a phobl broffesiynol eraill. Gall ymgeiswyr lunio cwrs sy'n cydfynd â'u diddordebau a'u dyheadau personol drwy ddewis rhydd ymysg y modiwlau.

Yn ogystal, mae ymestyn eich astudio rhan-amser dros gyfnod o dair i bum mlynedd yn eich caniatáu i reoli amseriad eich cynnydd ar y rhaglen heb amharu ar eich gwaith arferol nac eich ymrwymiadau teuluol.

Ar gyfer y rheini sydd ddim yn awyddus i fentro ar radd Feistr lawn, ceir pwyntiau gadael cydnabyddedig ar lefelau'r Tystysgrif i Raddedigion a'r Diploma i Raddedigion sydd ynddynt eu hunain yn gyraeddiadau teilwng.

Trefnir y rhaglen Feistr ar batrwm o bump penwythnos y flwyddyn, sy'n hwylus i bobl leol ac i'r rheini sy'n teithio o bell, ac sydd hefyd yn creu awyrgylch dysgu cefnogol a chyfeillgar. (Ar y funud, mae gennym fyfyrwyr o'r Iwerddon a Gwlad Groeg yn astudio ochr yn ochr myfyrwyr cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg o amryw ardaloedd yn y DU.) Yn ogystal, drwy gydweithio'n agos gyda sawl adran arall yn y Brifysgol, rydym yn gallu ymestyn y cyfleoedd sydd ar gael i ymgeiswyr drwy gynnwys sawl modiwl ar ffurf dosbarth nos neu ddysgu o bell.


Cliciwch yma i lwytho manylion y cwrs i lawr.