Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru
Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn dod at ei gilydd i ddarparu Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru, un o dair canolfan genedlaethol, yn weithredol o 2010 a bydd yn hyfforddi athrawon cynradd ac uwchradd.
Caiff y ganolfan newydd ei rheoli gan y ddau sefydliad ar y cyd a bydd yn parhau i weithio a datblygu partneriaethau gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws y rhanbarthau. Mae’r cydweithio hwn yn digwydd yng nghyd-destun partneriaeth strategol ehangach rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor mewn perthynas ag Ymchwil a Menter.
Dros nifer o flynyddoedd mae'r Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes ym Mangor wedi datblygu cysylltiadau cryf gydag ysgolion lleol ac rydym yn cydweithio fel Partneriaeth Hyfforddi Athrawon Uwchradd Gogledd Cymru.
Gellir llawrlwytho'r Llawlyfr Cwrs a Disgrifiad Rhaglen fel ffeil Rich Text Format (.rtf)