UWB Crest

Ysgol Addysg

Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Cynradd)

Delwedd o ddosbarth babanod

Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru

Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn dod at ei gilydd i ddarparu Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru, un o dair canolfan genedlaethol, yn weithredol o 2010 a bydd yn hyfforddi athrawon cynradd ac uwchradd.

Caiff y ganolfan newydd ei rheoli gan y ddau sefydliad ar y cyd a bydd yn parhau i weithio a datblygu partneriaethau gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws y rhanbarthau. Mae’r cydweithio hwn yn digwydd yng nghyd-destun partneriaeth strategol ehangach rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor mewn perthynas ag Ymchwil a Menter.

Cwrs dwys 38 wythnos yw hwn i raddedigion gyda'r nod o feithrin medrau dysgu ac addysgu y mae'n rhaid i athrawon dosbarth eu cael yn yr ysgol gynradd. Arbenigir naill ai ym maes plentyndod cynnar (3-7) neu'r cyfnod iau (7-11). Rhoddir pwyslais ar y Cwricwlwm Cenedlaethol a'i oblygiadau yn y dosbarth. Gellir dilyn y cwrs trwy'r Gymraeg neu'r Saesneg. Mae cydran ysgol y cwrs yn cynnwys 18 wythnos mewn ysgol partneriaeth ac fe leolir myfyrwyr mewn dwy ysgol sy'n cynnig amrywiaeth o brofiadau. Y cyfnod hwn yw canolbwynt y cwrs ac mae'n cynnwys cyswllt cyson rhwng myfyrwyr a disgyblion. Cysylltir darlithoedd a seminarau yn glos wrth brofiad dosbarth. Asesir myfyrwyr gan fentoriaid (athrawon) profiadol a thiwtoriaid Ysgol Addysg.

Dylai ymgeiswyr feddu ar radd mewn meysydd sy'n berthnasol i gwricwlwm yr ysgol gynradd, yn ogystal â gradd C neu'n uwch mewn iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth wrth wneud cais.

Rhaid gwneud cais drwy:

GTTR,
Rosehill,
New Barn Lane,
Cheltenham,
Glos,
GL52 3LZ. Ffôn: 0870 1122205

neu ymwelwch a safle'r we y GTTR. Gellir llawrlwytho'r Llawlyfr Cwrs a Disgrifiad Rhaglen fel ffeil Rich Text Format (.rtf)