UWB Crest

Ysgol Addysg

Dylunio a Thechnoleg

Image of design and technology work

Rydym yn hyfforddi athrawon dylunio a thechnoleg a chynllunwyr cynnyrch yn y ganolfan.

Rydym hefyd yn cynnal gweithdai, cyrsiau byr a chystadlaethau i ysgolion, athrawon a disgyblion (gweler y dudalen ddigwyddiadau am ragor o fanylion).

Ein hathroniaeth yw dysgu ein myfyrwyr i fod yn greadigol ac yn arloesol mewn sefyllfaoedd ‘go iawn’. Rydym yn annog ein hyfforddeion i weithio ar brojectau sydd â photensial masnachol. Trwy wneud hynny, maent yn ennill profiad a gwybodaeth mewn meysydd sy’n cynnwys ymchwil, marchnata, eiddo deallusol, cynaliadwyedd ac economeg.

Mae'r dull hwn o ddysgu wedi ennill cryn barch i'r ganolfan a'i myfyrwyr trwy’r wlad. Mae projectau ein myfyrwyr wedi cael eu harddangos ledled y DU ac maent yn destun sylw mawr yn y cyfryngau (e.e. rhaglen “Best Inventions” y BBC). Mae gan y ganolfan hanes o lwyddiant ym maes technoleg, dylunio ac arloesi ac mae hyn wedi ein galluogi i ymestyn yr amrywiaeth o gyrsiau rydym yn eu cynnig. Gweler yr adran cyrsiau am y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae’r ganolfan ar safle’r Normal rhwng Bangor Uchaf a Phont y Borth – mae’n le braf iawn i fyw a gweithio ynddo.

Mae gan y ganolfan ei hadeilad pwrpasol ei hun sy’n cynnwys y canlynol:

  • ystafell TG/ystafell ddarlithio gyda chyfarpar da
  • gweithdy gydag amrywiaeth gynhwysfawr o beiriannau a chyfarpar CNC
  • storfeydd
  • swyddfeydd

Mae’r myfyrwyr a’r staff hefyd yn gallu defnyddio adnoddau eraill y brifysgol sydd ar y campws:

  • llyfrgell gynhwysfawr
  • adnoddau TGCh helaeth
  • siop Undeb y Myfyrwyr
  • caffi
  • neuadd chwaraeon
  • cyrtiau tenis

Profion Mynediad

Yn ystod y cyfweliad byddwch yn cyflawni dau brawf llythrennedd ac un prawf rhifedd.

Profion Llythrennedd
Prawf 1 (30 munud o hyd)

• Bydd y dasg hon yn profi eich sgiliau sillafu, atalnodi, gramadeg a dealltwriaeth mewn Saesneg.
• Mae copi enghreifftiol o'r papur ar gael yma.

Prawf 2 (30 munud o hyd)
• Bydd y dasg hon yn profi eich sgiliau darllen, deall ac ysgrifennu ac yn cynnwys darn estynedig o ysgrifennu.
• Disgwylir i ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg gwblhau’r dasg hon yn y Gymraeg, mae copi enghreifftiol o'r papur ar gael yma.

Prawf Rhifedd
• Bydd y prawf rhifedd yn canolbwyntio ar y sgiliau ffwythiannol mathemategol sy'n ofynnol gan athrawon yn eu rôl broffesiynol .
• Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael o’r dasg hon. Gall ymgeiswyr ddewis i ateb mewn naill iaith neu’r llall.
• Ni chaniateir i chi ddefnyddio cyfrifiannell ar gyfer y prawf hwn.
• Mae copi enghreifftiol o'r papur hwn ar gael yma.

Deunydd cefnogi ychwanegol:
• Johnson, J. (2012) Passing the Literacy Skills Test (Achieving QTS) 3rd edn. Exeter: Learning Matters.
• Tyreman, C. (2011) How to Pass the QTS Numeracy and Literacy Skills Tests: Essential Practice for the Qualified Teacher Status Skills Tests. London: Kogan Page

Pe bai gennych anghenion dysgu ychwanegol yng nghyswllt y profion llythrennedd a rhifedd hyn dylech hysbysu Gweinyddwr y Cwrs ar unwaith drwy e-bost (postgrad-education@bangor.ac.uk) fel y gellir gwneud trefniadau priodol.