UWB Crest

Ysgol Addysg

Newyddion yn yr Ysgol Addysg

Delwedd o bapur newydd

'The Student as Producer' - Seminar

Dyddiad: 8 Chwefror 2012
Amser: 13.00 – 14.00
Darlithydd: Professor Mike Neary, Director of the Centre for Educational Research and Development, University of Lincoln
Lleoliad: Ystafell A1.01, Adeilad Alun, PrifysgolBangor

Dysgu am Blentyndod trwy Waith Celf

Cafodd myfyrwyr Astudiaethau Plentyndod gyfle i ymweld â'r Walker Art Gallery a Sudley House yn Lerpwl yn ddiweddar. Fel rhan o’r cwrs BA Astudiaethau Plentyndod, anogwyd y myfyrwyr i edrych ar ddetholiad o baentiadau o gyfnodau gwahanol sy’n darlunio plentyndod mewn gwahanol ffyrdd. Mwy ...

Seminarau Ymchwil i Staff

Dydd Gwener, 3 Chwefror, 2012

Bydd  Dr Annemarie Smith yn cyflwyno ei hymchwil ar – “Dweud straeon o ymchwil: adfyfyrio ar waith maes ym Mecsico”.
Bydd yn cael ei gynnal yn ystafell Dinas 104, Yr Ysgol Addysg, Safle’r Normal am 1.30pm.  Croeso i bawb.

Cynhadledd Ymchwil NCSE 2011

Rhoddir Dr Jean Ware cyngor ar bolisi addysg arbennig yn Nulyn. Mwy ...

Ymweliad Dr Anwei Feng  â Yunnan, Tsieina,  17 Rhagfyr-  Ionawr 2012

Ymwelodd Dr Anwei Feng â Yunnan, yn Tsieina yn ddiweddar, lle draddododd ddarlithoedd a seminarau ar Addysg Ryngddiwylliannol, Dwyieithrwydd ac Addysg Ddwyieithog i gannoedd o fyfyrwyr a staff mewn pump o Brifysgolion a Cholegau.  Mae Dr Feng eisoes yn dal swyddi Athro ym Mhrifysgol Yunnan Normal a Phrifysgol Qujing Normal ac ar yr ymweliad hwn dyfarnwyd cadair athro iddo ym Mhrifysgol Southwest Forestry.  Yn ogystal â chodi proffil Prifysgol Bangor, mae Anwei yn adrodd bod nifer o fyfyrwyr ac academyddion ifanc wedi mynegi diddordeb mewn dilyn eu hastudiaethau ym Mangor. Darllen mwy ...

Lansiad 'Trafodion Addysg': Addysg Dinasyddiaeth yng Nghymru

12.30 pm, 15 Tachwedd 2011, Senedd, Cardiff. Mwy ...

Un o raddedigion Ysgol Addysg yn ennill Pride of Britain

Llongyfarchiadau i Llew Davies, un o raddedigion Prifysgol Bangor, sydd newydd ennill Wobr Pride of Britain.
Mae'r athro 29 blwydd oed, a raddiodd gyda gradd mewn Addysg Gynradd yn 2004, bellach yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Cae Top ym Mangor, a llynedd enillodd teitl Athro'r Flwyddyn y DU. Darllen ymlaen ...

Graddedigion Bangor - yn fwy bodlon na'r myfyriwr cyfartalog

Roedd y myfyrwyr a raddiodd yn yr Ysgol Addysg, yr Ysgol Seicoleg, a’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn arbennig o fodlon ar eu profiad, ac o ganlyniad mae'r Ysgolion hynny ymysg y rhai gorau yn y pynciau hynny yn y Deyrnas Unedig o safbwynt profiad myfyrwyr. Gosodwyd yr Ysgol Addysg yn y safle uchaf yn y Deyrnas Unedig o ran boddhad myfyrwyr, Seicoleg yn y pumed safle a Gwyddorau Chwaraeon yn y 10fed safle. Darllenwch y stori llawn ...

Myfyrwyr Bangor yn cyflwyno Syniadau Busnes Disglair.

Enillydd y dosbarth israddedig, gyda’i wregys achub, oedd Shem ap Geraint, myfyriwr BSc Dylunio Cynnyrch.  Mae dyfais Shem, y ‘Rocket Life Ring’, yn fersiwn fodern o’r gwregys achub a gellir rei daflu’n fwy cywir ac yn bellach na’r gwregys traddodiadol. (01.06.2010) Mwy ...

Efrydiaeth Ymchwil PhD wedi ei Chyllido’n llawn.

Efrydiaeth Ôl-radd ym maes caffael iaith plant a wyieithrwydd mewn cydweithrediad ag S4C. Darllen ymlaen...

Dathlu Addysg Grefyddol:Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol, Bangor

Ym Mawrth 2011, bydd Cymru a Lloegr yn cael cyfle i ddathlu Addysg Grefyddol. Fel rhan o’r dathliadau hyn, fe’ch gwahoddir yn gynnes i’r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol, sydd wedi ei lleoli’n awr yn y llyfrgell ar Safle’r Normal, Prifysgol Bangor, ddydd Mercher, 30 Mawrth am 5pm. Ceir derbyniad i lansio ein lleoliad newydd, ac yna bydd darlith gyhoeddus gyda Mrs Carys Pritchard, Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i ESIS, yn siaradwr gwadd.

Ateber erbyn 25 Mawrth, os gwelwch yn dda, drwy gysylltu â:
ems023@bangor.ac.uk
01248 383594

Seminar Ymchwil Addysg

Ionawr 24  3pm. Dr Enlli Thomas:'Ymchwilio i ddefnydd cymdeithasol pobl ddwyieithog o iaith y tu mewn a’r tu allan i ystafell ddosbarth iaith leiafrifol' Yn ogystal, bydd Torka Joyce, Ann McCormack a Claire Williams yn cyflwyno ei gwaith ymchwil. Croeso i bawb.

Digwyddiad Formula 1 ym Mangor

Cynhaliwyd digwyddiad blynyddol ‘F1 i ysgolion’ ar safle Ysgol Addysg Prifysgol Bangor yr wythnos hon. (03.12.2010) Mwy...

Llongyfarchiadau  i un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor

Llew Davies, sydd newydd ennill teitl Athro’r Flwyddyn (02.11.2010) Mwy...

Hyfforddiant cychwynnol athrawon ym Mangor yw'r gorau yn y DU o ran boddhad myfyrwyr

Mae pawb wedi bod yn wên o glust i glust yn yr Ysgol Addysg ers cyhoeddi canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr. Daeth yr Ysgol Addysg, sy’n rhan o Goleg y Celfyddydau, Addysg a’r Dyniaethau, yn gyntaf o 58 sefydliad addysg uwch yn y DU o ran boddhad myfyrwyr ar y cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon. Darllen ymlaen ...