Datblygu Sgiliau ym Mhrifysgol Bangor
Ymateb Prifysgol Bangor i ofynion hyfforddi’r Cynghorau Ymchwil yw'r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Cyfnod Cynnar (RhDYCC). Mae’r rhaglen hyfforddi, a ymddangosodd yn wreiddiol ar ffurf y datganiad Sgiliau ar y Cyd yn 2001, ac yn awr ar ffurf y Datganiad Datblygu Ymchwilwyr (DDY) yn 2010, yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu sgiliau personol a phroffesiynol trosglwyddadwy ochr yn ochr â’r sgiliau a thechnegau ymchwil angenrheidiol ar gyfer eich astudiaeth ac ymchwil ôl-radd. Fel fframwaith gweithredol y DDY, mae’r Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr (FfDY) yn cynrychioli agwedd DU o bwys tuag at adeiladu ar ddatblygu ymchwilwyr, datblygu ymchwilwyr o safon fyd-eang ac adeiladu ein sylfaen ymchwil.
Mae’r RhDYCC yn cael ei chydlynu gan yr Uned Datblygu Academaidd (UDA) yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, ac mae'n cael ei darparu fel partneriaeth rhwng yr UDA a'r Ysgolion a'r Colegau academaidd. Mae pob cyfle hyfforddiant yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i bob ymchwilydd gyrfa cam cynnar ym Mangor, pa ffynhonnell gyllid bynnag sydd ganddynt. Fodd bynnag, gydag unrhyw fodiwl y rhoddir credyd amdano, codir tal ar eich Ysgol. Rhaid cael cytundeb eich goruchwyliwr cyn cofrestru ar gyfer cyrsiau modiwlaidd.
(Gweler y dudalen Cwestiynau Cyffredin )
Yr ydym yn sylweddoli bod amrywiaeth sylweddol yn y dulliau ac agweddau ymchwilio yn y gwahanol ddisgyblaethau, yn ogystal ag ym mhrofiad blaenorol myfyrwyr ymchwil a’u dulliau mynychu (llawn amser, rhan amser, a dysgu o bell). Dyna pam ein bod yn cynnig rhaglen hyblyg y gallwch chi ei theilwra ar gyfer eich anghenion personol chi eich hun yn ogystal ag ar gyfer eich prosiect ymchwil.
Cynllunio Datblygiad eich Sgiliau
Dylai’r broses o ddatblygu eich sgiliau gael ei chynllunio, ei threfnu a’i chydlynu yn union fel y byddech yn rheoli eich prosiect ymchwil. Mae gofyn i chi gyfrannu’n weithredol at gylch o hunan-arfarnu, pennu targedau, cynllunio gweithredoedd ac adolygu.
Ym Mangor, yr ydym wedi darparu offeryn a fydd yn galluogi i chi ddynodi eich anghenion hyfforddi. Yn ddelfrydol, dylid ei adolygu bob chwe mis, er mwyn i chi allu mesur eich datblygiad, a dynodi bylchau yn eich hyfforddiant. Mae’r Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi yn seiliedig ar bedwar parth y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr: Parthau A-D. Mae’r ddogfen Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi yn cynnwys un tabl ar gyfer pob un o barthau’r FfDY.
Mae pob parth yn dynodi gwybodaeth, ymddygiadau ac agweddau i’ch annog i ymgyrraedd at ragoriaeth drwy gyflawni lefelau uwch o ddatblygiad.
Mae’r ddogfen DAH yn caniatáu i chi gynnwys tystiolaeth am eich datblygiad a'ch sgiliau, a gall fod yn hynod werthfawr ar gyfer strwythuro cyfarfodydd myfyriwr/goruchwyliwr, creu eich CV neu i’w ddefnyddio mewn cyfweliadau.
Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa 2012-2013
Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa Gweithdai -
Hydref /Gaeaf 2012
RDF Wheel
RDF Professional Development Planner.
http://www.vitae.ac.uk/policy-practice/383571/RDF-Professional-Development-Planner-screencast.html