Datblygiad Ymchwilydd
Mae’r UDA yn gweithio i gefnogi datblygiad personol a gyrfa ymchwilwyr dan gontract Mae gweithgareddau’n canolbwyntio ar anghenion penodol ymchwilwyr ac yn cynnwys gweithdai a seminarau ar bynciau fel ysgrifennu papurau a bidiau ymchwil, rheoli projectau a phennu amcanion gyrfa.
Hyfforddiant a Datblygu
Mae’r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr ar Ddechrau Gyrfa ar gael i staff ymchwil dan gontract. Yn y Llawlyfr ERDP 2011-2012 amlinellir y cyrsiau a’r gweithdai a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Mae rhaglen Gwanwyn /Haf 2012 ERDP yn awr ar gael.
Cynigir hyfforddiant hefyd gan y Swyddfa Ymchwil ac Arloesi, gweler http://www.bangor.ac.uk/research/training/index.php.en
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau ynghylch yr hyfforddiant a’r gweithdai a gynigir, cysylltwch â Hwylusydd Ymchwil eich Coleg, neu anfonwch e-bost at y Cydlynydd Datblygu Sgiliau Ymchwil, Michele Underwood ar m.underwood@bangor.ac.uk
Adnoddau
Mae gan Vitae adnoddau penodol i ymchwilwyr a Phrif Ymchwilwyr. Dilynwch y linc hwn: http://www.vitae.ac.uk/
Mae Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr (RDF) Vitae yn allweddol i weld y sgiliau a’r offer y bydd arnoch eu hangen yn ystod eich hyfforddiant.
Ar gael hefyd i’ch helpu i weld beth yw eich anghenion hyfforddi mae Cynllunydd Datblygiad Proffesiynol yr RDF. Ceir screencast hefyd a fydd yn eich arwain ar lafar drwy’r broses. Gweler
http://www.vitae.ac.uk/policy-practice/383571/RDF-Professional-Development-Planner-screencast.html
Addysgu
Mae ymchwilwyr sydd hefyd yn dysgu ac sy’n dymuno datblygu eu sgiliau yn cael eu hannog i gofrestru ar y Rhaglen PGCertHE.