Prifysgol Bangor - Dathlu 125 mlynedd o ragoriaeth

I weld lluniau o'r digwyddiadau i ddathlu 125 mlwyddiant y Brifysgol, cliciwch yma
I nodi ei 125 mlwyddiant eleni, mae'r Brifysgol wedi dyfarnu ei Graddau er Anrhydedd cyntaf. Bu i'r Archesgob Desmond Tutu, Syr David Attenborough, Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AM a Syr John Meurig Thomas dderbyn Doethuriaethau Er Anrhydedd mewn seremoni arbennig yn y Brifysgol. Mwy...
Mae’r Brifysgol yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau arbennig i ddathlu canmlwyddiant a chwarter y Brifysgol. Ceir amlinelliad o rai o’r digwyddiadau (ond nid pob un) isod. Cyhoeddir manylion am bob un ar wahân, ond efallai yr hoffech nodi’r dyddiadau isod. Mae colegau ac ysgolion y Brifysgol hefyd yn trefnu digwyddiadau.