Prifysgol Bangor - Dathlu 125 mlynedd o ragoriaeth

Sadwrn 3ydd Hydref 2009
Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Bydd ensemble y Brifysgol yn dathlu 125 mlynedd gyntaf Prifysgol Bangor trwy berfformio cerddoriaeth a gyfansoddwyd gan Simon Rigby, a raddiodd ym Mangor, a William Mathias, cyn Athro Cerdd ym Mangor, a chyfansoddwyr eraill.
“Did early farming prevent a new Ice Age? Answer:YES!”
[Mae Bill Ruddiman yn Athro Emeritus Gwyddorau’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Virginia, UDA, ac yn un o wyddonwyr amlycaf y byd ym maes astudio’r hinsawdd]
Cinio Gala i bartneriaid busnes, 7.00pm, gyda Only Men Aloud! (Neuadd PJ) Gyda Only Men Aloud! enillwyr cyfres deledu'r BBC ‘Last Choir Standing’ yn 2008.
Gellir archebu bwrdd trwy gysylltu â Swyddfa’r Cofrestrydd.
Tocynnau ar gael gan Galeri (Caernarfon), Swyddfa Docynnau Galeri on 01286 685222 neu trwy'r wefan.
Pris tocynnau rhwng £27.50 - £32.50 (eistedd)
Mae gyrfa Mary Black, cantores ryngwladol o Iwerddon, wedi para dros 25 mlynedd ers ei dyddiau cynnar mewn clybiau gwerin yn Nulyn hyd at ei llwyddiant cynyddol gyda saith albwm unawd platinwm. Enillodd ei halbwm blaengar No Frontiers yn 1989 statws platinwm triphlyg a’i gwneud yn seren ar ddwy ochr Môr yr Iwerydd. 2008 oedd 25 mlwyddiant albwm unawd cyntaf Mary. I nodi’r achlysur rhyddhawyd albwm dwbl o’i chaneuon "25 Years / 25 Songs," a aeth yn syth i’r brig yn siartiau Iwerddon ac aros yno am bum wythnos. Mae’n ffigwr allweddol bwysig yn hanes cerddoriaeth Iwerddon. Mae wedi recordio a pherfformio gyda Van Morrison, Joan Baez, Emmylou Harris a llawer o rai eraill, ac yn denu cynulleidfaoedd mawr a brwdfrydig dros y byd i gyd. 
Wedi ei geni a’i magu ym mhlwyf Llangristiolus ar dirion dir Ynys Môn, mae’r gantores/gyfansoddwraig Meinir Gwilym wedi sicrhau lle iddi ei hun fel un o’r artistiaid cyfrwng Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed.
Rhaglen yn dathlu cyfraniad Ysgol Gymraeg y Brifysgol – ddoe, heddiw ac yfory – wedi ei gyflwyno gan staff a myfyrwyr yr ysgol. Dechrau am 10.00am (Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau)
Cerddi a darlleniadau (Ysgol Saesneg), 2.30pm (Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau)
“An Hour with Philip Pullman”, 4.00pm (Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau)
Tocynnau ar gael gan Galeri (Caernarfon), Swyddfa Docynnau Galeri on 01286 685222 neu trwy'r wefan.
Pris tocynnau – Sefyll £20, Balconi £25 
Super Furry Animals yw grŵp roc mwyaf adnabyddus Cymru. Ers ffurfio ym 1993, maent wedi mynd o nerth i nerth gan gynnal cyngherddau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd maent dan gontract â Rough Trade Records. Eleni maent unwaith eto yn perfformio mewn gwyliau cerddorol ac yn dathlu cyhoeddi eu 9fed albwm stiwdio, sef Dark Days/Light Years, sy’n ymweliad amryliw anfarwol â meddyliau’r Super Furry Animals. Ers cyhoeddi 'Hey Venus' yn 2007, mae’r grŵp wedi bod yn brysur gyda phrojectau amrywiol, yn cynnwys gwaith Daf a Guto gyda Rhys Ifans yn The Peth, gwaith Cian gydag Acid Casuals a gyhoeddir ar eu label Som Bom label cyn bo hir ac, wrth gwrs, gwaith Gruff gyda Neon Neon a enwebwyd am wobr Mercury.
Parti i blant staff y Brifysgol - Digwyddiad i blant, yn cynnwys gweithgareddau ym maes gwyddoniaeth a chelfyddyd.
Mwy o fanylion yma
Dathliad o amrywiaeth ddiwylliannol a phroffil rhyngwladol y Brifysgol yn ystod y 125 mlynedd ddiwethaf, 4.00pm (Cadeirlan Bangor)
Mwy o fanylion i ddilyn maes o law
Arddangosfa o weithiau celf (Ystafell Gynhadledd 3, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Trefnir digwyddiadau eraill gan ysgolion y Brifysgol, yn cynnwys yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sy’n cynnal digwyddiad ar thema “Dr Who” ar 28 Hydref am 2 o'r gloch y prynhawn.
Mae’r Ysgol Cemeg wedi trefnu darlith gan Syr John Meurig Thomas FRS, 23 Hydref am 4.30pm (Neuadd Prichard-Jones) (noddwyd gan y Royal Society of Chemistry).