Mae pawb yn gwybod nad ydy bod yn fyfyriwr yn brofiad rhad iawn ond peidiwch â phoeni...mae help wrth law!
Fel myfyriwr israddedig llawn amser mi fydd gennych ddau brif gost:
- eich ffioedd dysgu
- eich costau byw
Y newyddion da yw’r ffaith eich bod yn gallu derbyn help gyda’r ddau yma gan fod amrywiaeth o help ariannol ar gael.
Ffioedd Dysgu
Ffioedd Dysgu yw beth sy’n rhaid i chi ei dalu am eich cwrs. Nid oes rhaid i chi dalu’r gost yma yn ôl tan eich bod yn graddio ac yn ennill dros £15,000 y flwyddyn. Am fwy o fanylion am Ffioedd Dysgu, ewch i’n tudalennau ar gyllid myfyrwyr.
Costau Byw
Bydd eich costau byw fel myfyriwr yn cynnwys pethau fel llety, bwyd, llyfrau, dillad a theithio. Gallwch wneud cais am Fenthyciad Myfyriwr i’ch helpu gyda’ch costau byw ac yn ddibynnol ar gyflog eich teulu gallwch hefyd dderbyn grantiau a bwrsariaethau. Ewch i’n tudalennau ni ar Gyllid Myfyrwyr am fwy o wybodaeth ar Fenthyciadau Myfyrwyr.
Y newyddion da yw bod costau byw yn ôl ymchwil yn llawer is ym Mangor i gymharu â nifer o ddinasoedd eraill ym Mhrydain. Er enghraifft, mae Bangor yn un o’r pedwar gorau o ran costau byw isel yn ôl adroddiad gan The Independent (Hydref 25, 2007)
Cymorth ychwanegol
Gallwch wneud cais am ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsariaethau Prifysgol Bangor a allai eich helpu gyda’ch costau byw. Ewch i’n tudalennau ar Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am fwy o fanylion.
Gallwch hefyd fod yn gymwys, yn ddibynnol ar eich sefyllfa, fod yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol gan gynnwys Lwfans Myfyrwyr ag Anabledd a Grant Gofal. Ewch i’n tudalennau ar Gyllid Myfyrwyr am fwy o wybodaeth