UWB Crest

Wedi ymgeisio yn barod?

Pwy fydd yn edrych ar eich hol?

Image of two students sitting in the quad

Efallai nad ydych chi’n meddwl y byddwch chi angen neb i edrych ar eich hol ond mae cychwyn mewn prifysgol yn gam mawr ac mi fyddwch chi’n profi rhai pethau am y tro cyntaf un.

Rydym ni eisiau i chi setlo i mewn mor gyflym â phosibl a mwynhau eich bywyd myfyriwr i’r eithaf. Yn sicr nid ydym ni eisiau meddwl bod unrhyw un yn eistedd yn eistedd yn ei ystafell yn poeni am unrhyw beth. Mae Prifysgol Bangor yn gofalu am ei myfyrwyr ac i brofi hynny cafodd ein cynllun Arweinwyr Cyfoed ei enwi ar restr fer ar gyfer Gwobr Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.

Arweinwyr Cyfoed

O’r foment y byddwch yn cyrraedd, byddwch mewn dwylo diogel yr Arweinwyr Cyfoed. Yr Arweinwyr Cyfoed yw myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn sydd yno i’ch helpu chi gydag unrhywbeth…cario eich stwff o’r car i’ch ystafell, dangos i chi lle mae eich darlithoedd yn cael eu cynnal, rhoi taith i chi o amgylch y ddinas a dangos i chi lle mae’r diodydd rhataf yn cael eu gwerthu! Gwyliwch y fideo am Arweinwyr Cyfoed ar BangorTV

Tiwtor Personol

Mae pob myfyriwr hefyd yn cael Tiwtor Personol yn yr ysgol academaidd lle maent yn astudio. Bydd y Tiwtor Personol yn gallu eich helpu ag unrhyw broblem neu gwestiwn ynglŷn â’ch cwrs. 

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn yr Undeb yno i’ch helpu gyda bob math o agweddau o’ch bywyd fel myfyriwr. Yno cewch gymorth gyda materion cyllid, cymorth astudio, materion anabledd, iechyd meddwl, cynghori, tai myfyrwyr, darpariaeth ffydd, iechyd a lles a chymorth ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol

Swyddfa Neuaddau

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â llety myfyrwyr, mae ein Swyddfa Neuaddau yno i’ch helpu. Ewch I’n tudalennau ni ar Lety Myfyrwyr am fwy o wybodaeth am Neuaddau Preswyl Bangor.

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Os ydych chi’n ystyried dod o hyd i waith rhan-amser tra yn y Brifysgol, bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn barod i’ch cynghori. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig cymorth gyda dod o hyd i brofiad gwaith a chyngor ar ddatblygu gyrfa.