UWB Crest

Wedi ymgeisio yn barod?

Dewch i'n gweld

Image of the Main Arts Building

Diwrnodau Agored yr Ysgolion

Os ydych wedi gwneud cais trwy UCAS am fynediad yn 2012, bydd yr adran yn cysylltu â chi er mwyn eich gwahodd i'r Diwrnod Agored.

Rydym yn cynnal nifer o Ddiwrnodau Agored drwy gydol y flwyddyn er mwyn rhoi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl os ydych yn penderfynu dod i astudio yn ein hysgol.

Mi fydd ein staff a’n myfyrwyr presennol ar gael i ateb unrhyw gwestiynau ac i roi gwybodaeth fanwl i chi am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi. Cewch hefyd fynd am dro o amgylch y ddinas ac fe awn â chi am daith o amgylch y neuaddau preswyl er mwyn rhoi cipolwg i chi o sut beth ydy bywyd ym Mangor.

Am restr gyflawn o'r holl Ddiwrnodau Agored yr Ysgolion/UCAS, cliciwch yma

Diwrnodau Agored y Brifysgol

Os ydych yn ystyried dod i'r Brifysgol, bydd y Diwrnod Agored nesaf ar gyfer y Brifysgol gyfan yn cael ei gynnal ar 7 Gorffennaf 2012. Cliciwch yma am fwy o fanylion

Ar Ddiwrnod Agored cewch:

  • fwy o wybodaeth am yr ysgolion academaidd/cyrsiau
  • taith o amgylch y campws a chael cipolwg ar y neuaddau preswyl
  • cyfarfod staff y Brifysgol a myfyrwyr presennol
  • syniad o sut beth ydy bywyd myfyriwr ym Mangor

Am fwy o wybodaeth am ein Diwrnodau Agored, cysylltwch â'r Uned Recriwtio Myfyrwyr ar 01248 388143/382005 neu e-bostiwch visits@bangor.ac.uk

Ymweliadau Unigol

Os nad yw'n bosibl i chi ymweld â ni ar un o'n Diwrnodau Agored, rydym yn fwy na hapus i drefnu ymweliad anffurfiol yn cynnwys taith o amgylch y Brifysgol a'r campws (gan gynnwys neuaddau preswyl) ac yn dibynnu ar y rhybudd gallwn hefyd drefnu ymweliad i'r ysgol academaidd o'ch dewis.

Am fwy o fanylion cysylltwch â'r Uned Recriwtio Myfyrwyr ar 01248 388143/382005 neu e-bostiwch visits@bangor.ac.uk

Map o'r Brifysgol

Cliciwch i lawrlwytho map o Fangor (PDF).