UWB Crest

Wedi ymgeisio yn barod?

Eich dyddiau cyntaf

Image of two students dressed up during Welcome Week

I wneud yn siŵr fod gennych chi fywyd cymdeithasol gwych yn y Brifysgol, rydym ni am drefnu wythnos o weithgareddau cyffroes a bythgofiadwy i groesawu myfyrwyr newydd.

Yn ystod yr Wythnos Groeso, mi wnawn ni bopeth posibl i wneud yn siŵr eich bod yn ymgartrefu yma, drwy ddangos i chi lle mae popeth, eich cyflwyno chi i’ch tiwtoriaid a’ch diddanu chi gydag adloniant fel cerddoriaeth fyw, nosweithiau cwis, gwisg ffansi a diodydd rhad.

Er mai dim ond saith niwrnod yw'r Wythnos Groeso, rydym yn addo na wnewch chi byth anghofio’r profiad.

Be’n union sy’n digwydd yn ystod yr Wythnos Groeso?

  • Dim darlithoedd na seminarau am yr wythnos.
  • Cewch gofrestru a dewis modiwlau
  • Cewch gyfarfod eich tiwtor personol
  • Mi wnawn ni lenwi eich dyddiadur drwy gynnal nosweithiau gwyllt a gwirion.
  • Bydd cyfle i chi ymaelodi â’n clybiau a chymdeithasau yn Ffair y Glas
  • Bydd Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol ar gael i’ch helpu gydag unrhyw beth o ddadlwytho’r car i fod yn bartner i chi yn y ras deircoes o amgylch y tafarndai gyda’r nos
  • Cewch ddod i wybod mwy am Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) a’r gweithgareddau a nosweithiau arbennig maen nhw’n eu trefnu.
  • Bydd rhywbeth gwahanol yn mynd ymlaen bob diwrnod gan gynnwys taith o amgylch y llyfrgell, trip i’r traeth a digon i roi gwên ar eich wyneb gyda’r nos.

Beth ddigwyddodd yn ystod yr Wythnos Groeso?

Ydych chi eisiau gwybod beth oedd yn mynd ymlaen yn ystod yr Wythnos Groeso ddiwethaf? Darllenwch Dyddiaduron Wythnos Groeso neu edrychwch ar Luniau Wythnos Groeso i gael blas! .