UWB Crest

Canolfan Bedwyr

Canolfan Bedwyr

Mae Canolfan Bedwyr yn ganolfan unigryw sy'n cynnig gwasanaeth cynnal a datblygu'r Gymraeg mewn amgylchedd amlieithog.

Yn fewnol, mae'r Ganolfan yn cyfrannu at y gwaith o gynnal a chryfhau'r Gymraeg o fewn Prifysgol Cymru Bangor drwy ddarparu gwasanaeth cyfieithu a gloywi iaith safonol. Y Ganolfan hefyd sy'n gyfrifol am Gynllun Iaith y sefydliad.

Ond mae gan y Ganolfan hefyd rôl ehangach ar lefel genedlaethol a rhyngwladol yn cefnogi'r Gymraeg yn yr oes gyfrifiadurol. Ar y cyd gyda phartneriaid o wledydd fel Iwerddon, yr Unol Daleithiau a Siapan a chyrff adnabyddus fel y BBC, Microsoft a Phrifysgol Carnegie Mellon, y mae'n datblygu arfau ieithyddol a chyfrifiadurol sy'n galluogi'r Gymraeg i dorri tir newydd.

Mae'r wefan hon yn cynnig rhagor o wybodaeth am wasanaethau a phrosiectau'r Ganolfan.