Technolegau Iaith
Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil sy'n datblygu
adnoddau iaith ar gyfer y Gymraeg, yr ieithoedd Celtaidd eraill, a
sefyllfaoedd amlieithog.
Mae'r Uned yn gyfrifol am Cysgliad, y pecyn
gwirio iaith a chasgliad o eiriaduron cynhwysfawr, ynghyd â nifer o
offer gwirio iaith eraill. Mae'n gwneud gwaith safoni termau, a
hefyd wedi datblygu geiriaduron electronig ar CD ac ar y we. Mae'n
datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill,
ac yn cynnal cronfeydd data enwau lleoedd ar y we. Mae'r Uned hefyd yn datblygu
deunyddiau dysgu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys gemau iaith.
Mae gan yr Uned gysylltiadau agos â busnes a diwydiant, ac mae'n
ymgymryd â chynlluniau Parterniaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).
Mae'n aelod sefydlydd o CMC (Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg).
Cliciwch ar un o'r dewisiadau ar y chwith i weld mwy am yr hyn sydd gan Ganolfan Bedwyr i'w gynnig.