Newyddion
Archifdy a Chasgliadau Arbenig - Cau Dros Dro
Oherwydd gwaith adeiladu sylweddol ym mhrif storfeydd yr Archifdy fe fydd ystafell ymchwil yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yn cau ar yr 20ed o Orffennaf 2012 ac yn ail agor ar Fedi'r 10ed 2012. Ni fydd unrhyw wasanaeth Archifol, gan gynnwys llyfrau prin, ar gael yn ystod y cyfnod hwn. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn achosi i'n hymchwilwyr
Canrif ar y Bryn
01/07/11
I ddathlu can mlwyddiant agoriad sywddogol adeiladu’r Coleg ym 1911 mae’r Archifdy a’r Casgliadau Arbennig wedi trefnu arddangosfa newydd.
Wedi’i lleoli yng nghoridor yr Is-Ganghellor ac ar agor i bawb, rydym wedi dewis a dethol dogfennau sy’n adlewyrchu’r digwyddiadau a arweiniodd at adeiladu’r Coleg ar y bryn – yr ymweliadau brenhinol, cystadleuaeth y penseiri a’r penderfyniad dadleuol i doi’r adeilad gyda llechi o Sir Benfro.
Bydd yr Arddangosfa ar agor o’r 2il o Orffennaf 2011 - Rhagfyr 23ain.
Arddangosfa
02/06/11
Mae detholiad o Feiblau'r Llyfrgell ac Archifau yn cael eu harddangos yng nghoridor yr Is-ganghellor ar hyn o bryd. Mae croeso i bawb fynd i'w gweld.
Hefyd, dros yr Haf cynhelir arddangosfa am adeiladu'r Brifysgol. Bydd cynlluniau gwreiddiol Henry Hare y pensaer i'w gweld, yn ogystal a phapurau yn ymwneud a'r dewis o ddeunyddiau ar gyfer yr adeilad - carreg dywod o Riwabon a llechi o Breseli yn hytrach na'r garreg galch a'r llechen las leol.
Casgliadau Newydd
Mae’r Archifdy yn derbyn casgliadau newydd yn rheolaidd ac mae’r orchwyl o gatalogio’r deunydd yma’n rhan bwysig o waith yr adran. Pob hyn a hyn bydd catalog newydd yn ymddangos.
Cofiwch alw draw yn rheolaidd i weld pa gasgliadau newydd sydd ar gael i’r cyhoedd.
Derbyniodd Archifdy’r Brifysgol rodd hael yn ddiweddar tuag at y gwaith o atgyweirio dogfen. Cliciwch yma am fwy o fanylion.