UWB Crest

Archifau

Chwilio yn y Casgliadau

Delwedd yn dangos darn o'r archif

Yn y Canolbwynt Archifau (Archives Hub) a Rhwydwaith Archifau Cymru mae gwybodaeth am holl Gasgliadau’r Archifdy ac am ganran sylweddol o’n Casgliad Cyffredinol. Ar hyn o bryd, mae’r wybodaeth ar lefel casgliad, ond gellir gwneud cais i’r Adran am ragor o fanylion neu am ddisgrifiadau fesul eitem. Gweler tudalen Cysylltwch â ni.

Bydd disgrifiadau lefel casgliad o Gasgliadau’r Archifdy ar gael yn y catalog ar-lein sydd gan y Llyfrgell. Pan fyddwch yn chwilio, cofiwch nodi’n benodol mai dim ond yng nghatalog Casgliad Archifdy Prifysgol Bangor yr ydych eisiau chwilio.

Hefyd mae gatalog cardiau yn yr ystafell ddarllen. Mae hwn yn rhoi arweiniad i chi gyda’r Casgliadau Cyffredinol a’r Casgliadau Arbennig. Mae wedi ei drefnu yn ôl enwau personol, enwau pynciau ac enwau lleoedd. Gall darllenwyr newydd sydd eisiau edrych yn y mynegai cardiau gael arweiniad gan Staff yr Archifau.