UWB Crest

Ysgol Busnes Bangor

Hen Newyddion

Delwedd o bapurau newydd

Llwyddiant IBM Ysgol Busnes Bangor

llunUnwaith eto eleni mae ein timau Her Busnes IBM wedi dod â chlod i ni. Y llynedd roedd gennym dri thîm, ac aeth un drwodd i’r rownd gynderfynol.  Eleni roedd gennym bedwar tîm a ffurfiwyd yn dilyn proses gyfweld ffurfiol a thrwyadl - cawsom dros ddeugain o geisiadau. Arweiniwyd ein pedwar tîm gan Sarah Graham, Henry Ye, Chris Coe a Leah Jones.

Roedd y gystadleuaeth eleni’n galetach gyda phrifysgolion yn cynnig mwy o dimau. O’r 250 o dimau yn Rownd 1, dim ond yr 80 tîm uchaf aeth ymlaen i’r rowndiau cynderfynol.  Meddai Dr Clair Doloriet o Ysgol Busnes Bangor: “Eleni aeth pob un o’n pedwar tîm ymlaen. Os gwnawn gymharu hynny gyda phrifysgolion fel Prifysgol Lerpwl a oedd â deuddeg tîm (gyda chwech yn mynd ymlaen) mae’n tystio i ansawdd, ymroddiad a phenderfyniad ein timau.”                    

“Cynhaliwyd y rowndiau cynderfynol mewn 10 lle gwahanol led led Prydain. Roedd y rhain yn hynod gystadleuol gyda safleoedd yn newid hyd at y cyfnod penderfynu olaf un. Cafwyd elfen ‘cerdyn gwyllt’ yn y rowndiau cynderfynol eleni gyda dwy farchnad ‘oligopoly’ ar wahân (yn cynnwys pedwar tîm yr un) yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

llunFel y pwysleisiodd y trefnwyr ar ddechrau’r rowndiau cynderfynol, mae pawb sy’n cyrraedd y fan honno’n rhai ail-orau. Does yr un ohonynt yn colli gan eu bod wedi bod yn hynod lwyddiannus yn dod i’r traean uchaf mewn cystadleuaeth galed.

Dyma ganlyniadau ein timau: yn Solihull death tîm Sarah Graham yn 6ed safle a thîm Chris Coe yn dod yn 4ydd.  Yn Newcastle: tîm Leah Jones yn dod yn 3ydd. Yn Surrey daeth tîm Henry Ye yn 6ed.

Yn olaf, mae sylwadau a gawsom gan drefnwyr y gystadleuaeth yn crynhoi pa mor rhagorol fu ein timau: “Roedd eich tîm yn glod i’r Brifysgol. Fe wnaethant yn rhagorol gan fethu ennill o drwch blewyn. Roedd eu cyflwyniadau’n wych ac roeddent yn frwdfrydig a phroffesiynol. Roeddwn wedi gobeithio’n ddistaw bach mai nhw fyddai’n ennill ond yn sicr fe wnaethant eu gorau glas!”

Datblygu Cysylltiad rhwng Cymru a'r Emiradau Arabaidd Unedig

Sheikh Hazza bin Zayed al NahyanMae aelod o deulu llywodraethol Abu Dhabi wedi llwyddo'n eithriadol yn ei radd PhD a ddyfarnwyd gan Ysgol Busnes Prifysgol Bangor.

Ar ôl ennill ei MPhil ym Mhrifysgol Caergrawnt, cofrestrodd Sheikh Hazza bin Sultan Al-Nahyan ar raglen PhD ym Mhrifysgol Bangor gan ymroi i ymchwil ar "Adnoddau Naturiol, Datblygu Economaidd a Diogelwch yn yr Emiradau Arabaidd Unedig", dan oruchwyliaeth Dr David Law a'r Athro Phil Molyneux, Pennaeth yr Ysgol Busnes.

Ar yr un pryd ag y cafodd Sheikh Hazza bin Zayed al Nahyan ei radd cyrhaeddodd Ysgol Busnes Bangor garreg filltir yn ei hanes, sef cael ei chyfrif yr Adran orau yn y DU am ymchwil ym maes Cyllid a Chyfrifeg, yn ôl canlyniadau Ymarfer Asesu Ymchwil 2008.

Yn dilyn ei viva voce, dywedodd Sheikh Hazza: "Etifeddais fy nheitl Brenhinol ond rydw i'n falch iawn o fod wedi ennill fy PhD ar fy mhen fy hun. Rydw i wedi mwynhau'r awyrgylch cyfeillgar a chefnogol ym Mangor, anogaeth fy nheulu a chefnogaeth fy ngoruchwyliwr, Dr. Walid Al-Dargazelli."

Gan edrych yn ôl ar lwyddiant Sheikh Hazza, meddai Dr David Law: "Roedd Sheikh Hazza yn fyfyriwr da iawn, a gwnaeth argraff arbennig yn ei amddiffyniad huawdl o'i thesis PhD eang yn yr arholiad viva voce terfynol. Rydw i'n siŵr y bydd ei waith yn ei alluogi i wneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiad yr Emiradau Arabaidd Unedig yn y dyfodol."

Bydd dinasyddion y DU yn fwyaf cyfarwydd ag aelod arall o deulu Sheikh Hazza, ei ewythr Sheikh Mansour bin Zayed Al-Nahyan, perchennog Clwb Pêl Droed Dinas Manceinion, a reolir gan y cyn bêl-droediwr rhyngwladol Mark Hughes, sydd fel mae'n digwydd yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor. Nid mewn meysydd academaidd yn unig y mae Sheikh Hazza wedi rhagori: ers yn blentyn, mae'n hoff iawn o chwaraeon, ac yn arbennig o weithgar ym meysydd hebogyddiaeth a marchogaeth ceffyl. Yn 2005 enillodd Bencampwriaeth y Byd mewn dygnwch wrth farchogaeth ceffyl.

Mae Ysgol Busnes Bangor hefyd yn mwynhau cysylltiadau agos â gwledydd eraill Gorynys Arabia. Mae myfyrwyr dan nawdd Ysgoloriaethau'r Brenin Abdul Aziz o Saudi Arabia yn cofrestru i ddilyn graddau Meistr mewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid. Mae myfyrwyr Bahraini yn cofrestru hefyd bob blwyddyn ar raddau baglor mewn Bancio a Chyllid trwy gytundeb partneriaeth gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain. Hefyd mae aelodau o deulu brenhinol Qatari Al-Thani wedi graddio o Brifysgol Bangor mewn blynyddoedd diweddar.

Yn ddiweddar mae Ysgol Busnes Bangor wedi lansio grŵp o raddau MA ac MSc mewn Bancio a Chyllid Islamaidd, a fu'n llwyddiannus iawn, gan ddenu myfyrwyr nid yn unig o Wledydd y Gwlff ond o nifer o sefydliadau bancio Islamaidd.

Rhoddodd Sheikh Khalifa bin Zayed Al-Nahyan, ewythr Sheikh Hazza ac Arlywydd yr Emiradau Arabaidd Unedig a Llywodraethwr Abu Dhabi, nawdd tuag at y Ganolfan Astudiaethau Islamaidd ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn 1997.

Ysgol Busnes Bangor ar frig tabl ymchwil y Deyrnas Unedig

Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i fod ar frig un o 67 o dablau pwnc Ymarfer Asesu Ymchwil (YDY) y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Ystyriwyd bod cyflwyniad Ysgol Busnes Prifysgol Bangor o ymchwil ym maes cyfrifeg a chyllid yn flaenllaw yn y byd ac yn ychwanegol at hynny mae ar frig tabl y DU ac o flaen pob prifysgol arall sy'n gwneud ymchwil yn y maes. Gweler tabl cyngrair y Guardian.

Mae hyn yn cadarnhau Ysgol Busnes Bangor fel yr orau ym Mhrydain ar gyfer Cyfrifeg a Chyllid.

Daeth Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol yn ail yn y DU hefyd, er gwaethaf y gred gyffredin bod angen ysgol enfawr i allu gwneud ymchwil o'r safon hwn.

"Dyma ddau faes ymchwil allweddol a gwahanol iawn, ac mae Bangor wedi profi ei bod yn rhagori ynddynt. Mae canlyniadau'r ymchwil a wneir yn yr Ysgol Busnes ac yn yr Ysgol Peirianneg Electronig o fudd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ymchwil o ansawdd fel hyn yn berthnasol i fyd busnes a diwydiant. Mae cael eu dysgu gan ymchwilwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Bangor yn atyniad mawr i'n myfyrwyr hefyd, wrth gwrs", meddai'r Is-ganghellor, yr Athro Merfyn Jones.

Entrepreneur ym maes Cyllid yn derbyn cadair Bersonol mewn Busnes

Delwedd o'r Athro gardnerMae Dr Colyn Gardner, Prif weithredwr Canolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor wedi ei anrhydeddu gyda Chadair Bersonol mewn Busnes ym Mhrifysgol Bangor.

Mae'r teitl, Athro mewn Busnes yn adlewyrchu'r cyfraniad a waned gan Dr Colyn Gardner i Brifysgol Bangor ac yn wir, i entrepreneuriaeth ac addysg gyllidol.

Enillodd Dr Colyn Gardner graddau MSc a PhD ym Mangor. Rhwng ennill ei raddau a dychwelyd fel Prif Weithredwr, bu'n enw blaenllaw byd eang yn y byd ariannol. Mae wedi bod yn entrepreneur mewn maes arbenigol iawn, yn cynnig gwasanaethau ar y lefel uchaf yn y sector cyllidol, gan ddarparu hyfforddiant cyllidol arbenigol ar y lefel uchaf yn y sector cyllidol, ymgynghori cyllidol ac ymgynghori gyrfaol a gan fuddsoddi mewn technolegau i'r gwasanaethau cyllidol.

"Mae'r Athro Gardener wedi mwynhau gyrfa entrepreneuraidd disglair mewn sector o bwys i economi'r DU- mae'r DU yn cadw'i safle ymysg y tri chanolfan ariannol pwysicaf y byd. Mae cwmnïau'r Athro Gardner wedi llwyddo mewn sector arloesol a chystadleuol tu hwnt, gan ddarparu gwasanaethau i rai o'r brandiau sy'n cwmpasu'r byd ym maes gwasanaethu ariannol. Rwyf felly wrth fy modd bod yr Athro Gardner yn gweithio gyda'r tîm ym Mhrifysgol Bangor," meddai'r Is-Ganghellor, Athro Merfyn Jones

"Rwy'n falch iawn o'r cyfle i gyfrannu tuag at lwyddiant Ysgol Busnes Bangor, Ysgol sy'n arwain ymysg adrannau Prifysgol Ewrop sy'n arbenigo mewn astudiaethau bancio. Rydym mewn cyfnod llawn her i'r banciau ac rwy'n hyderus y bydd y galw am ein rhaglenni yn cynnyddu'n arurthol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod," meddai'r Artho Gardner.

 

Frankie Cheung o Bloomberg LP yn ymweld ag Ysgol Busnes Bangor

Bydd Frankie Cheung o Bloomberg LP yn ymweld ag Ysgol Busnes Bangor ar ddydd Gwener 14 Mawrth i roi seminar ar Bloomberg.

Mae'r Gwyddionadur ar-lein Wikipedia, yn disgrifio Bloomberg LP fel y canlynol: "Bloomberg L.P. is currently the largest leading financial news and data company in the world with 33% of international market share ... Bloomberg L.P. was founded by Michael Bloomberg (current Mayor of New York City) with the help of Thomas Secunda and other partners (ex coworkers from Salomon Brothers) in 1981 and provides financial software tools such as analytics and equity trading platform, data services and news to financial companies and organizations around the world through the Bloomberg Terminal, its core money-generating product. Bloomberg L.P. has grown to include a global news service, including television, radio, the Internet and publications."

Image of Professor David JohnstoneYmweliad: Yr Athro David Johnstone o Brifysgol Sydney

Mae'r Athro David Johnstone, Athro Cyllid ym Mhrifysgol Sydney yn ymweld ag Ysgol Busnes Bangor. Bydd yn cyflwyno papur ymchwil (The Information Content of Successive Trades by the Same Broker) dydd Iau (17/01/08), am 2.15pm, yn Ystafell Gynhadledd Hen Goleg. (Ystafell i'w chadarnhau).

Image of Dr Maxwell StevensonYmweliad: Dr Maurice Peat o Brifysgol Sydney

Mae Dr Maurice Peat o Brifysgol Sydney ar hyn o bryd yn ymweld ag Ysgol Busnes Bangor. Yn ystod ei ymweliad bydd yn cyflwyno seminar ymchwil ar bapur sydd wedi a ysgrifennodd ar y cyd gyda Maxwell Stevenson:

The Prediction of Australian Takeover Targets: A Binomial Logit Analysis

Graddio 2007

Enillodd bron i ddau gant o fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor raddau BA, MA, MSc a PhD yn 2007.

Cafodd deunaw o fyfyrwyr anrhydedd dosbarth cyntaf yn eu graddau BA, gyda’r myfyrwyr canlynol yn derbyn gwobrau am waith o safon arbennig iawn:

  • Kate Forrester – gwobr William a Myfanwy Eames am y perfformiad gorau mewn Economeg.
  • Yan Kei Lo (Jaqueline) – Gwobr Goffa David Jones i’r myfyriwr a gafodd y marc gorau am broject mewn maes yn ymwneud â chyllido busnes.                           
  • Kok Kan Li (Ryan) – gwobr Jack Revell i’r myfyriwr a gafodd y marc gorau am broject mewn maes yn ymwneud â bancio.
  • Andrew Burgess – gwobr CIPFA i’r myfyriwr gorau mewn cyfrifeg.     
  • Aysha Ali M Jahani -  gwobr FT Prentice Hall / Pearson am y marc uchaf mewn  ‘Industrial Structure of Banking’.
Dyfarnwyd graddau PhD i saith myfyriwr. Gwelir pedwar ohonynt yn y llun isod o’r chwith i’r dde gyda’r Athro Phil Molyneux yn y canol: Angel Liao PhD  Cyfrifeg a Chyllid, Trong Nghia Nguyen PhD Bancio, Dan Chen PhD Economeg ac Alper Kara PhD Bancio

Gorchestion Staff

Llongyfarchiadau i ddau aelod staff a gafodd eu hanrhydeddu yn Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 2007 am eu cefnogaeth arbennig i fyfyrwyr. 

Derbyniodd Mrs Bethan Hamilton-Hine (isod) Gymrodoriaeth Ddysgu Gysylltiol am ei ‘chyfraniad nodedig i gefnogi myfyrwyr’.

 

Derbyniodd Yr Athro John Goddard (isod) Gymrodoriaeth Ddysgu i gydnabod ‘rhagoriaeth mewn dysgu a gofal bugeiliol dros fyfyrwyr’.                     

Mae’r Athro John Goddard hefyd wedi derbyn Cymrodoriaeth Ymchwil gan sefydliad ymchwil Ente Luigi Einaudi o Rufain, sydd â chysylltiadau â Banc yr Eidal a’r Sefydliad Bancio Eidalaidd  (ABI). Diben yr Ente yw hyrwyddo ymchwil a hyfforddiant uwch i fyfyrwyr ym meysydd economeg ddamcaniaethol a chymhwysol. Gan ddechrau ym Medi 2007, bydd Yr Athro Goddard yn treulio tri mis yn swyddfa’r Ente yn Rhufain gan gymryd rhan mewn project ymchwil o’r enw ‘Cystadleuaeth mewn Marchnadoedd Bancio a Chyllid’.

Ennill Grantiau i Ddatblygu Dysgu ac Ymchwil

Yn ddiweddar enillodd Yr Athro Jennifer Rowley a Dr Sally Sambrook grant datblygu dysgu ac Ymchwil gan yr Higher Education Academy Subject Centre for Business, Management, Accountancy and Finance. Bydd y grant yn cefnogi eu project ‘Beth yw diben darlithoedd mewn dysgu cymysg?’, a fydd yn ymchwilio i’r ffordd mae myfyrwyr yn defnyddio nodiadau darlithoedd a ddarperir drwy rith amgylchedd dysgu (VLE) ac edrych ar effaith nodiadau ar y we ar y ffordd mae myfyrwyr yn dysgu. 
Mae Dr Sally Sambrook o Ysgol Busnes Bangor a’r Athro Jim Stewart o Leeds Metropolitan University wedi cael grant o £10,000 i ymchwilio i addysgu, dysgu ac asesu mewn Datblygu Adnoddau Dynol. Cyllidir y grant ar y cyd gan yr University Forum for Human Resource Development (UFHRD) a’r Higher Education Academy Subject Centre for Business, Management, Accounting and Finance (BMAF).  Mae adolygiad llenyddiaeth ac arolwg drwy holiadur eisoes wedi cael eu cwblhau ac mae’r tîm yn gobeithio rhannu’r darganfyddiadau mewn cynadleddau  UFHRD a BMAF yn y dyfodol. Un canlyniad allweddol i’r gwaith hwn yw creu Grŵp Diddordeb Arbennig mewn Datblygu Adnoddau Dynol o fewn BMAF.

Myfyrwyr PhD yn cyflwyno papurau yng Nghynhadledd Academi Marchnata

Aeth Yr Athro Jennifer Rowley, a thri myfyriwr PhD o Ysgol Busnes Bangor, Sara Parry, Roz Jones a Sonya Hanna, i Gynhadledd yr Academi Farchnata, a noddwyd gan y Kingston Business School a’i chynnal yn y Royal Holloway Conference Centre o 3-6 Gorffennaf 2007. Cyflwynodd bob un o’r myfyrwyr bapurau ar eu testunau ymchwil yn y Colocwiwm Doethurol a oedd yn gysylltiedig â’r gynhadledd. Enillodd papur Roz Jones yn y brif gynhadledd ar 'Entrepreneurial marketing - a considered approach for further analysis' y wobr am y papur gorau yn y maes ‘Marchnata Entrepreneuriadd a Busnesau Bychain’. Noddwyd y wobr gan Sage Publications, trwy’r  International Small Business Journal.  Roedd y myfyrwyr mor brysur yn ymwneud ag eraill a ffurfio cysylltiadau fel y gwnaeth Yr Athro Andrew MacAuley, Cadeirydd yr Academi Farchnata, gyfeirio’n benodol at ‘y tri myfyriwr PhD rhagorol o Fangor’ yn ei anerchiad yn ystod Cinio’r Gynhadledd.

Image of Professor Jenny Rowley (far left) with students (from left) Roz Jones, Sonya Hanna and Sara Parry

Yr Athro Jenny Rowley (chwith ar y pen) a’r myfyrwyr (o’r chwith) Roz Jones, Sonya Hanna a Sara Parry

Darlithwyr Gwadd

Yr Athro David Humphrey

Yn ddiweddar rhoddodd Yr Athro David Humphrey, Athro Cyllid yn Florida State University, gyflwyniad i Ysgol Busnes Bangor ar  'Payment Network Scale Economies, SEPA, and Cash Replacement'. Daeth staff a myfyrwyr i wrando arno.         
Cyn ymuno â Florida State University, bu’r Athro Humphrey’n gweithio i’r  Federal Reserve System am 16 mlynedd ac mae ganddo ddiddordebau ymchwil mewn bancio, marchnadoedd ariannol a systemau talu. Derbyniodd ei Ph.D. mewn Economeg o’r University of California (Berkeley), ac mae ar Fwrdd Golygyddol y Journal of Monetary Economics, The Journal of Banking and Finance, a The Journal of Payments Strategy and Systems. Hefyd mae wedi cyhoeddi dros gant o bapurau.

Dr Maxwell Stevenson

Ymwelydd cyson ag Ysgol Busnes Bangor, a chyfrannwr at y rhaglen PhD, yw Dr Maxwell Stevenson. Yn ystod ymweliad diweddar rhoddodd seminar ymchwil ar y testun: Time, Liquidity, Volume and Bid-Ask Spreads: An Analysis of their Joint Impact on the Volatitlity of Equity Markets.

Ymwelwyr ag Ysgol Busnes Bangor

Yn ddiweddar ymwelodd Dr Mohamed Alkhozai, Pennaeth yr Academic & Executive Learning Center of Bahrain Institute of Banking and Finance ac Ali Abdulla Zubari, Uwch Swyddog Cyfrifon, ag Ysgol Busnes Bangor. Mae’r ddau sefydliad yn bartneriaid mewn rhaglen ddysgu gydweithredol sy’n ymwneud â dysgu israddedigion yn yr Institute yn Bahrain ac ym Mangor. Graddiodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yng Ngorffennaf 2007, un gyda gradd dosbarth cyntaf BA mewn Bancio a Chyllid. Ym Medi 2007, mae un ar bymtheg o fyfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau yn Ysgol Busnes Bangor.                                                             

Yn ystod eu hymweliad, aeth Yr Athro Phil Molyneux o Ysgol Busnes Bangor â’r ymwelwyr ar daith o amgylch yr ardal leol. Ar y dde mae Dr Mohamed Alkhozai.

NEWYDD: Tystysgrif Ôl-radd mewn Arweinyddiaeth Gydweithrediadol mewn Gwasanaethau Cyhoeddus  

Mae Canolfan Rheoli Ysgol Busnes Bangor ac UWIC (Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd) wedi llwyddo i gael cyllid gan Rheolaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru / Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu Tystysgrif Ôl-radd mewn Arweinyddiaeth Gydweithrediadol mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Gwelwyd bod angen arweinwyr a all weithio ar draws ffiniau gwahanol sefydliadau yn y sector cyhoeddus a disgwylir y bydd y cymhwyster hwn yn gwella cyfleoedd datblygu rheolaeth i weithwyr Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru ac ymhellach. Disgwylir dechrau recriwtio i’r rhaglen yn 2008. Manylion pellach i’w cael gan James Goodman j.f.goodman@bangor.ac.uk.

Digwyddiadau i ddod

Darlith George Rae

Bydd Dyfrig John, Prif Weithredwr HSBC plc yn cyflwyno Darlith Ddwyflynyddol George Rae ddydd Gwener 19 Hydref 2007 am 5.15pm ym Mhrifysgol Bangor.

Testun ei ddarlith fydd: ‘Bank Customers are the Real Winners – but at what price?’

Penodwyd Dyfrig John yn Brif Weithredwr ym Mawrth 2006 a chyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol, hefyd gyda HSBC, swydd a ddaliodd er Ionawr  2003. Yn wreiddiol o Orllewin Cymru, ymunodd Dyfrig â Banc y Midland fel hyfforddai graddedig cyn ymuno â changen Cyllid Corfforaethol y Banc yn Llundain.

Yn dilyn nifer o benodiadau rheoli uwch ym mhrif swyddfa’r banc yn Llundain, symudodd Dyfrig i’r India yn 1997 fel Prif Swyddog Gweithredol HSBC yn India. Yna, yn 1999, symudodd i Falaysia fel Dirprwy Gadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol  HSBC Bank Malaysia Berhad.

Ailddechreuwyd cyfres darlithoedd George Rae yn 1989 ac fe’i cynhelir bob yn ail blwyddyn.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd darlithoedd gan y canlynol: E. Mervyn Davies, CBE, Prif Weithredwr Grŵp Standard Chartered Bank PLC a David Humphrey, o Adran Gyllid Florida State University.

Os dymunwch ddod, a fyddech cystal â chysylltu â Karen Jones ar: 01248 382166 neu e-bost k.w.jones@bangor.ac.uk

Digwyddiadau Alumni

Cynhaliwyd derbyniad hynod lwyddiannus i alumni’n ddiweddar yn Athen, Gwlad Groeg. Daeth dros 90 o alumni o bob rhan o’r wlad i’r achlysur, gyda rhai’n hedfan yno’n arbennig o’r ynysoedd. Roedd llawer o’r alumni wedi astudio yn Ysgol Busnes Bangor, a gynrychiolwyd yn y digwyddiad gan Dr Jonathan Williams a Mr Brian Jones. Yno hefyd ar ran Bangor roedd Rachel Davies, Swyddog Cysylltiadau Alumni. Mae llun o’r grŵp isod.

 

Bwrdd Ymgynghorol

Cynhaliwyd cyfarfod o Fwrdd Ymgynghorol Ysgol Busnes Bangor ar 18 Mai.  Ymysg y rhai a oedd yn bresennol roedd Syr Peter Davis, un o gyfarwyddwyr bwrdd yr United Bank of Switzerland, a Mr Mervyn Davies.    
Un o brif eitemau’r agenda oedd taith o amgylch y Ganolfan Rheolaeth, sydd i fod i agor yn haf 2007.
Mae’r Bwrdd yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn (ar gylch Bangor → Llundain → Bangor → Caerdydd) a chynhaliwyd y cyfarfod diwethaf yn Llundain ym Mhrif Swyddfa’r Standard Chartered Bank.

Cyhoeddiadau

Mae papur Yr Athro Lynn Hodgkinson gyda Graham Partington, ‘The Motivation for Takeovers in the UK’ wedi cael ei dderbyn i’w gyhoeddi yn The Journal of Business Finance and Accounting.
Mae Dr Sally Sambrook, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol, wedi golygu (gyda’r Athro Jim Stewart) lyfr newydd o’r enw Human Resource Development in the Public Sector: The Case of Health and Social Care (Routledge, 2007)

Newyddion am Fyfyrwyr

Myfyrwyr yn cael eu gwahodd i Ddathliadau Diwrnod y Gymanwlad gan Lywodraeth y Cynulliad

Yn ddiweddar gwahoddwyd pedwar o fyfyrwyr o Ysgol Busnes Bangor i gymryd rhan yn nathliadau Diwrnod y Gymanwlad yng Nghaerdydd.                

Fel rhan o’r dathliadau, gwahoddwyd myfyrwyr o wledydd y Gymanwlad sy’n astudio ar hyn o bryd yng Nghymru i ysgrifennu ar y testun ‘ Parchu gwahaniaeth, hyrwyddo dealltwriaeth’, yng nghyd-destun eu gwlad eu hunain.
Cyflwynodd 70 o fyfyrwyr drafodaethau ar y testun hwn, ac o’r un ar bymtheg o fyfyrwyr a wahoddwyd i gyflwyno eu papurau, mae pedwar yn astudio yn Ysgol Busnes Bangor, sef:

  • Rajesh Daswani o’r India, sy’n astudio am MBA Bancio a Chyllid 
  • Patrena Brookes o Jamaica sy’n astudio MA Bancio a Chyllid 
  • Abdullah Ali o’r Maldives sy’n astudio am BA Cyfrifeg a Chyllid
  • Mark Lungu o Malawi sy’n gwneud PhD mewn Bancio 

Fe’u gwahoddwyd i gymryd rhan yn y dathliadau yn adeiladau’r Cynulliad yng Nghaerdydd lle cawsant eu croesawu gan Yr Arglwydd Elis-Thomas, Y Llywydd. Cawsant daith o amgylch adeiladau’r Cynulliad a chyfle i gyfarfod â’r deg a thrigain o fyfyrwyr a oedd yn cynrychioli ugain gwlad yn y digwyddiad.     

Manylion pellach ar wefan y Cynulliad:

http://www.assemblywales.org/newhome/new-news-second-assembly

Rhes uchaf chwith i’r dde: Rajesh Daswani sy’n astudio yn Ysgol Busnes Bangor a Stacey Cateau, sy’n astudio am MSc Gwyddor Chwaraeon ym Mangor
Rhes isaf chwith i’r : Patrena Brookes, Abdullah Ali a Mark Lungu o Malawi, y tri’n astudio yn Ysgol Busnes Bangor.                  

Ymweliad â Brwsel

Yn ddiweddar bu myfyrwyr ôl-radd ar ymweliad â Brwsel a drefnwyd gan  Mr Brian Jones sy’n cyflwyno’r modiwl ôl-radd mewn Busnes Ewropeaidd. Roedd yn cynnwys ymweliad â Chyngor y Gweinidogion, Y Comisiwn Ewropeaidd a’r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol.

Ymweliad â Llundain

Yn Chwefror 2007 aeth David James â grŵp o fyfyrwyr ail flwyddyn i Lundain i ymweld â’r Heddlu Metropolitan, Tŷ’r Cyffredin, UNA, swyddfa Llundain Awdurdod Datblygu Cymru a Banc Lloegr.

Newyddion am Brifysgolion Partner

Prifysgol Hohai, Nanjing

Yn ystod ymweliad diweddar â Tsieina, llofnododd Ysgol Busnes Bangor gytundeb i gydweithredu â Phrifysgol Hohai. Mae’r brifysgol yn ninas Nanjing yn Nhalaith Jiangsu, talaith gyfagos i Shanghai. Un agwedd ar y cytundeb yw y bydd Ysgol Busnes Bangor yn croesawu graddedigion o Brifysgol Hohai i astudio ar wahanol gyrsiau meistr. Disgwylir i’r garfan gyntaf o fyfyrwyr gyrraedd Bangor ym Medi    2007.

Prifysgol Brydeinig Kuwait

Yn Chwefror 2007, aeth yr Is-Ganghellor Yr Athro Merfyn Jones, Cyfarwyddwr yr Ysgol Busnes Yr Athro Ted Gardener, Dirprwy Gyfarwyddwr Ysgol Busnes Bangor Yr Athro Phil Molyneux, Iwan Roberts Pennaeth Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol a Dr Ioan ap Dewi Cofrestrydd Academaidd, i Kuwait ar gyfer llofnodi swyddogol y cytundeb partneriaeth rhwng Ysgol Busnes Bangor a Phrifysgol Bangor a’r Brifysgol Brydeinig arfaethedig yn Kuwait. Yr Ysgol Busnes a Phrifysgol Bangor fydd y partner Prifysgol ym Mhrydain yn y fenter newydd hon. Mae’r Athro Merfyn Jones a’r Athro Ted Gardener yn ymddiriedolwyr ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Prifysgol Brydeinig Kuwait. Roedd Tywysog Cymru a Llysgennad Prydain i Kuwait yn bresennol yn y seremoni lofnodi swyddogol.