UWB Crest

Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Astudiaethau ôl-raddedig

Delwedd yn dangos myfyrwyr ôl-raddedig

Newyddion Diweddaraf

  • Efrydiaeth PhD AHRC mewn Astudiaethau Cyfieithu. Mwy...
  • Efrydiaeth PhD AHRC mewn Archaeoleg. Mwy...
  • Efrydiaeth PhD gydweithredol a gyllidir gan yr AHRC. Mae Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Dr John Olsson o’r Sefydliad Ieithyddiaeth Fforensig, eisiau penodi ymgeisydd cymwys i efrydiaeth ddoethurol am dair blynedd yn dechrau ar 1 Hydref 2011. Mwy...
  • Cynllun Meistr Blwyddyn AHRC Paratoi ar gyfer Ymchwil (Ysgrifennu Creadigol , Hanes, Saesneg a Chymraeg/Astudiaethau Celtic (MA / PhD))
  • Dyfarnu ysgoloriaeth i ddawn gerddorol o Gymru. Mwy ...
  • Profiad 'Y Tu Hwnt i Ffiniau' 2010! Darllen ymllaen ...
  • Coron a Medal i Fyfyrwyr Cymraeg Bangor – Eto! Darllen ymlaen ...
  • Dyfodol disglair - Teitl cyfieithydd gorau Prydain i fyfyriwr o Gymru Darllen ymlaen ...
  • R.S. Thomas – Llawysgrifau Newydd: Ychwanegiad at Gasgliad y Brifysgol Darllen ymlaen ...

Llawlyfr

Ewch i'n tudalen Llawlyfrau er mwyn llwytho copi o'r Llawlyfr Ôl-radd i lawr

Cwrs Meistr Blwyddyn yr AHRC: Cynllun Paratoi ar gyfer Ymchwil

Cymraeg/Astudiaethau Celtaidd (blwyddyn lawn-amser neu ddwy flynedd ran-amser)

 Mae Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau am Gwrs Meistr Blwyddyn yr AHRC: Cynllun Paratoi ar gyfer Ymchwil ym maes y Gymraeg/Astudiaethau Celtaidd (blwyddyn lawn-amser neu ddwy flynedd ran-amser) yn dechrau ar 1 Hydref 2012. Mae’r cynllun hwn ar gyfer myfyrwyr sydd am wneud cwrs Meistr ac sy’n dymuno canolbwyntio ar hyfforddiant ar gyfer astudiaeth uwch ac ymchwil sy’n gysylltiedig â Chymraeg/Astudiaethau Celtaidd. Ei fwriad penodol yw rhoi sylfaen ar gyfer ymchwil bellach ar lefel doethuriaeth.  Ym maes eang Astudiaethau Celtaidd, cydnabyddir Bangor yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer astudio Cymraeg, a gall yr astudiaeth uwch ganolbwyntio ar unrhyw faes mewn llenyddiaeth Gymraeg o’r oesoedd canol hyd at y presennol.  Gall yr astudiaeth hefyd fod yn gymharol ei natur, gan gysylltu’r Gymraeg â disgyblaethau academaidd neu feysydd astudio cysylltiedig, er enghraifft Hanes Cymru, Crefydd, Archaeoleg, Cerddoriaeth, Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg Cymru, Astudiaethau Arthuraidd, Ieithoedd Ewropeaidd, Astudiaethau Diwylliannol, Theori Gwleidyddiaeth ac Ideoleg.

Disgwylir i ymgeiswyr am y cynllun hwn mewn Cymraeg/Astudiaethau Celtaidd fod â record academaidd ardderchog fel israddedigion, h.y. Gradd Baglor (neu gyfwerth). Telir ffioedd dysgu myfyrwyr MA llawn-amser i’r rhai sy’n gymwys i gael efrydiaeth lawn gan yr  AHRC a byddant yn derbyn taliad o £9,490 (dyma’r gyfradd yn ystod blwyddyn academaidd 2011/12). Mae grantiau’r AHRC ar gael i ymgeiswyr o’r DU a’r UE. Sylwer mai dim ond grant ffioedd y gall ymgeiswyr o’r UE ei dderbyn. Am fwy o fanylion ynghylch cymhwyster, ewch i Adran 7 ac Atodiad A yn y ddogfen ganlynol:

http://www.ahrc.ac.uk/FundingOpportunities/Documents/GuidetoStudentFunding.pdf

 Trefn gwneud cais

Y dyddiad cau yw dydd Llun 2 Gorffennaf 2012 a chynhelir cyfweliadau yn ddiweddarach yn ystod Gorffennaf neu ddechrau Awst. Rhaid ymgeisio drwy ddefnyddio Ffurflen Gais Ôl-radd Ar-lein y Brifysgol sydd ar gael yma (i gael fersiwn Gymraeg o’r ffurflen, gofalwch bod y gosodiad iaith ar eich gwe-borwr wedi ei roi ar 'Cymraeg' a chliciwch i gael y dudalen gywir). Yn ogystal â’r dogfennau ategol y gofynnir amdanynt yn y ffurflen ar-lein, mae angen i ymgeiswyr hefyd ddarparu, ar ffurf atodiad electronig, ddatganiad (dim mwy na 1000 o eiriau) yn nodi:

(i) eu sgiliau ymchwil a’u profiad perthnasol (gan gynnwys, er enghraifft, sgiliau T.G. a disgrifiad byr o raglen astudio ar lefel prifysgol hyd yma);

(ii) yr hyn y dymunant ganolbwyntio arno ar lefel ôl-radd, cynllun o’r ymchwil, dealltwriaeth o’r sialensiau a wynebir, ynghyd ag eglurhad o’r modd y gall yr astudiaeth ar lefel MA arwain at gynllun PhD;

(iii) bydd angen i ymgeiswyr hefyd nodi os ydynt yn ymgeisio am ysgoloriaethau gan yr AHRC sy’n cael eu cynnig gan sefydliadau eraill (os ydynt, dylid nodi enw'r sefydliad / sefydliadau).

Sylwer: Wrth ateb Cwestiwn 4, dan Eitem 9 o 10 ar y Rhestr Wirio ar y ffurflen gais ar-lein (‘Nodwch sut y bwriadwch gyllido eich astudiaethau ym Mangor ...’ mae angen i ymgeiswyr roi’r wybodaeth ganlynol: ‘Efrydiaeth 2012 a gyllidir gan yr AHRC – MPY Cymraeg / Astudiaethau Celtaidd’.

Am wybodaeth bellach am yr ysgoloriaeth hon a’r ffurflen gais ar-lein, cysylltwch ag ccdolradd@bangor.ac.uk.

Yn gweddnewid eich potensial

Mae'r byd gwaith yn lle cystadleuol iawn erbyn hyn ac felly mae cyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â rhywbeth ychwanegol i'w gynnig. Mae astudio cwrs ôl-raddedig yn gyfle i ehangu eich gorwelion ac arbenigo yn eich maes.

Beth bynnag yw eich gobeithion proffesiynol neu academaidd, gall Prifysgol Bangor eich helpu i gyrraedd eich nod.

Mae ein llwyddiant yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf yn cadarnhau fod Bangor yn brifysgol ymchwil penigamp.

Mae'r Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cynnis ystid eang o gyrsiau ôl-raddedig drwy ddysgu a rhaglenni ymchwil. Am gopi o'r Llawlyfr Ôl-radd ewch i'n tudalen Llawlyfrau

Mae'r Graduate Junction yn wefan newydd sy'n galluogi ymchwilwyr graddau Feistr, Doethuriaeth ac Ôl-ddoethuriaeth o fewn unrhyw faes ac o unrhyw le yn y byd i wneud cysylltiad â chyfathrebu’n hawdd ac ymchwilwyr eraill sy'n rhannu eu diddordebau ymchwil, pa bynnag adran, sefydliad neu wlad maent yn gweithio ynddi.

Bwrsariaethau Teithio Doethurol/MPhil Ysgol Graddedigion Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Gall myfyrwyr ôl-raddedig MPhil a PhD yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau fod â hawl i wneud cais am fwrsariaeth deithio tra byddant yn gofrestredig, er mwyn mynd i gynhadledd academaidd neu ymweld ag archif/lyfrgell academaidd berthnasol.  Caiff pob cais ei asesu yn ôl ei deilyngdod ei hun, ac ni fydd y fwrsariaeth neu’r bwrsariaethau a roddir i unrhyw fyfyriwr ôl-radd yn dod i gyfanswm o fwy na £150 mewn unrhyw flwyddyn academaidd. Dylid cyfeirio pob ymholiad at swyddfa ôl-radd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ccdolradd@bangor.ac.uk

Efrydiaeth PhD AHRC mewn Astudiaethau Cyfieithu

Mae Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau am Efrydiaeth PhD AHRC mewn Astudiaethau Cyfieithu, yn dechrau 1 Hydref 2012. Mwy o wybodaeth...

Efrydiaeth PhD AHRC mewn Archaeoleg

Gwahoddir ceisiadau gan Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor am Efrydiaeth PhD AHRC mewn Archaeoleg, yn dechrau 1 Hydref 2012. Mwy o wybodaeth...