Cymorth i Weithredu'r Cynllun Iaith
Gall Uned y Cynllun Iaith weithio gyda staff i’w cynorthwyo i weithredu polisi iaith y Brifysgol.
Gall hyn gynnwys cynnal sesiynau ymwybyddiaeth iaith, datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer adran, cynghori ac ateb cwestiynau am y Cynllun, edrych ar sgiliau iaith staff yr adran a chynghori ar hyfforddiant a chamau gweithredu perthnasol.
Os am sgwrs, cysylltwch â Dr Lowri Hughes (est. 8697).
Isod mae dolenni defnyddiol ar wefan Prifysgol Bangor. Mae’r dolenni’n helpu staff i ddilyn y Cynllun Iaith a hefyd i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn eu gwaith.