Cylch Gîcs Gramadeg
Cylch i drafod gramadeg y Gymraeg yng nghyd-destun ieithyddiaeth gyfoes a thechnoleg iaith yw Cylch y Gîcs Gramadeg.
Mae'r rhaglen hon o seminarau wedi'i threfnu dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.Cynhelir y sesiynau am 2 o'r gloch y prynhawn yn ystafell D1:02 Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
Dyddiad |
Siaradwr |
Pwnc |
---|---|---|
23 Ionawr 2013 | Dr Bruce Griffiths | Ystyriaethau gramadegol wrth lunio Geiriadur yr Academi |
13 Chwefror 2013 | Robat Trefor | Problemau gyda safoni a chywair |
27 Chwefror 2013 | Dr Gwen Awbery | Cyweiriau llafar ac ysgrifenedig y Gymraeg |
13 Mawrth 2013 | Andrew Hawke | Geiriadur Prifysgol Cymru: Ar Seiliau Cadarn? |
24 Ebrill 2013 | Dr David Willis | Newid ac amrywiaeth mewn Cymraeg cyfoes |
8 Mai 2013 | Bob Morris Jones | Cymalau unoliaethol a phriodoliaethol yn iaith plant ifainc |
22 Mai 2013 | Dr Elena Parina | Polysemiaeth a newid ystyr mewn ansoddeiriau Cymraeg |