Technoleg Lleferydd :: Project WISPR
Roedd Project WISPR (Welsh and Irish Speech Processing Resources) yn broject sylweddol a arianwyd gan gynllun "Interreg" yr EU. Derbyniwyd cyllid ychwanegol gan Fwrdd yr iaith Gymraeg.
Bwriad y project oedd datblygu synthesis testun-i-lais Cymraeg ar gyfer y Gymraeg a'r Wyddeleg, yn ogystal â chasglu cronfeydd data llais ar gyfer yr ieithoedd hynny. Fe'i datblygwyd ar y cyd rhwng Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru Bangor, a Trinity College Dublin, gyda chymorth oddi wrth Dublin City University a University College Dublin.
Ychydig iawn o waith oedd wedi ei wneud yn flaenorol ar ddatblygu arfau technoleg llais ar gyfer y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae aelodau tîm WISPR yn credu mai'r ffordd orau i ledaenu technoleg iaith mewn amgylchedd iaith leiafrifol yw dosbarthu yn rhydd arfau a rhaglenni sy'n hawdd eu defnyddio, gan eu trwyddedu'n hael er mwyn galluogi i ddatblygwyr eraill eu hintegreiddio oddi mewn i'w meddalwedd eu hunain.
Synthesis Testun-i-lais
Mae Synthesis Testun-i-lais (TTS) yn galluogi cyfrifiadur i ddarllen testun yn uchel. Mae'n wahanol i Gyfieithu Peirianyddol gan nad yw'n cyfieithu'r testun, dim ond ei ddarllen yn uchel. Mae modd ei ddefnyddio mewn darllenwyr sgrin ar gyfer pobl sydd ag anawsterau gweld er mwyn darllen cynnwys sgrin cyfrifiadur, fel e-byst neu dudalennau gwe, iddyn nhw, a hynny weithiau ar gryn gyflymder. Gellir hefyd ei ddefnyddio i ryngweithio gyda chyfrifiadur dros y ffôn. Bydd dulliau newydd o ddefnyddio ffonau symudol yn gallu defnyddio testun-i-lais ar gyfer tasgau fel darllen negeseuon yn uchel.
Mae project WISPR yn defnyddio'r fframwaith cod agored poblogaidd "Festival" ar gyfer testun-i-lais. Datblygwyd rhai gwellianau gan dîm WISPR Cymru, er enghraifft galluogi Festival i ddelio gyda thestun mewnbwn ar ffurf UTF-8 (er mwyn gallu gweithio gyda phob nod llythyren posib yn y Gymraeg).
Datblygwyd Festival yn wreiddiol yn y Centre for Speech Technology Research, University of Edinburgh, ac yna ym Mhrifysgol Carnegie-Mellon, UDA, fel rhan o broject "Festvox".
Allbwn WISPR
Mae'r holl adnoddau a rhaglenni a ddatblygwyd yn ystod project WISPR ar gael am ddim i'w llwytho i lawr o'r ddolen isod:
Mae'r holl god gwreiddiol hefyd i'w gael yn agored dan drwydded debyg i drwydded BSD. Mae hyn yn sicrhau cyn lleied o gyfyngiadau a bo modd, fel bod modd defnyddio allbwn technoleg llais WISPR gydag ystod eang o feddalwedd, gan gynnwys meddalwedd berchnogol a meddalwedd cod agored.