Amcan y project Byddwch Fentrus yw helpu myfyrwyr a graddedigion i fod yn fwy mentrus p'run a ydynt eisiau bod yn hunangyflogedig, yn ymgynghorwyr ar eu liwt eu hunain neu mewn gwaith rheolaidd.
Mae'r project Byddwch Fentrus yn cynorthwyo myfyrwyr a graddedigion i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd trwy weithdai o ansawdd uchel a mentora gan weithwyr proffesiynol profiadol, ac mae'n eu helpu i gael cyfleoedd profiad gwaith cyflogedig neu wirfoddol addas. Mae clwb menter hefyd yn gweithredu fel rhith-fforwm ar gyfer ymwneud ag eraill sydd â diddordeb mewn menter, er mwyn rhannu syniadau, dulliau gweithredu gorau a phrofiadau.
Beth allwn ni ei wneud i chi?
Rydym yn cydweithio'n agos â chwmnau, asiantaethau menter ac asiantaethau cefnogi busnes yng Ngogledd Cymru er mwyn cyflawni anghenion cyflogaeth leol a gwella cyfle myfyrwyr a graddedigion i gael gwaith.
Os yw eich cwmni angen cymorth tymor byr gallwn roi gwybod i chi ar fyr rybudd am ymgynghorwyr annibynnol medrus a phrofiadol. Mae Cyllid y Wlad wedi cymeradwyo ein contract ar gyfer rhai'n gweithio ar eu liwt eu hunain ac mae ar gael pe baech ei angen. Mae'r gwasanaeth paru pobl a swyddi ar gael am ddim.