UWB Crest

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Beth yw'r Job Zone

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynnig cymorth i fyfyrwyr chwilio am waith tra maent yn astudio ac wedi iddynt raddio.

Y JobZone yw Biwrô Cyflogaeth Myfyrwyr y Brifysgol; rydym yn hysbysebu cyfleoedd lleol sydd ar gael i raddedigion ac i fyfyrwyr rhan a llawn-amser.

Trwy'r JobZone gellwch wneud cais am:

  • Swyddi i raddedigion
  • Swyddi rhan-amser, llawn-amser, parhaol a dros dro
  • Swyddi achlysurol
  • Gwaith dros y gwyliau
  • Lleoliadau GO Wales

  • Cyfleoedd gwaith byd-eang

I fedru defnyddio'r cyfleuster hwn mae angen i chi gofrestru gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ac mae'n rhaid i chi fod yn un o'r canlynol:

Os hoffech ddefnyddio ‘Going Global’, mae’n hanfodol eich bod chi’n cofrestru drwy rwydwaith Bangor.

 

Bydd eich cofrestriad yn para chwe mis. Fodd bynnag, gellwch ailgofrestru cyhyd รข’ch bod chi ar rwydwaith Bangor.

I fynd at gyfleoedd gwaith byd-eang mae’n rhaid i chi gofrestru gyda GOING GLOBAL.

 

  • myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor
  • rhywun wedi graddio (o unrhyw Brifysgol)
  • myfyriwr o unrhyw brifysgol arall yn y DU (yn ystod adegau gwyliau'n unig)

Yn ogystal â hysbysebu swyddi gwag a lleoliadau, mae gan y JobZone y canlynol hefyd:

  • taflenni i helpu gydag ysgrifennu ffurflenni cais, CVs a sgiliau mewn cyfweliad
  • cyngor a chefnogaeth ar faterion yn ymwneud â chyflogaeth
  • cyfrifiaduron gyda mynediad i'r rhyngrwyd ar gyfer chwilio am swyddi a gwneud cais am swyddi ar-lein