Croeso i'r Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithasol a'r Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor.
Rydym wedi cyfuno tair disgyblaeth gysylltiedig i ffurfio Coleg sydd â sylfaen ymchwil cadarn a chyrsiau o’r radd flaenaf ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.
Mae ein cyrsiau israddedig yn cyfuno modiwlau busnes, gwyddorau cymdeithas a’r gyfraith er mwyn darparu dimensiwn cyffrous i ehangder eich astudiaethau..
Mae ein canolfannau ymchwil yn darparu cyfleoedd i staff a myfyrwyr ymchwil ac yn darparu sylfaen i’n rhaglenni trwy ddysgu i ôl-raddedigion.
Gyda chyfadran gyfunol gydag oddeutu 100 o staff rydym hefyd yn gallu darparu cefnogaeth bersonol ragorol, sy'n rhywbeth mae Bangor yn gydnabyddedig amdano yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.