Mae'r byd gwaith yn lle cystadleuol iawn erbyn hyn ac felly mae cyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â rhywbeth ychwanegol i'w gynnig.
Mae astudio cwrs ôl-raddedig yn gyfle i ehangu eich gorwelion ac arbenigo yn eich maes. Beth bynnag yw eich gobeithion proffesiynol neu academaidd, gall Prifysgol Bangor eich helpu i gyrraedd eich nod.
Mae ein llwyddiant yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf yn cadarnhau fod Bangor yn brifysgol ymchwil penigamp.
Mae'r Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a'r Gyfraith yn cynnig ystod eang o gyrsiau ôl-raddedig wedi eu haddysgu a rhaglenni ymchwil