- Dydd Iau, 1 Medi 2011
- 9:30am – 4:30pm
- Ysgol Cemeg, Prifysgol Bangor
Dr. Jeremy Tomkinson, CEO, NNFCC
Canolfan Genedlaethol y DU ar gyfer Ynni, Tanwyddau a Deunyddiau Bioadnewyddadwy
Bydd y gynhadledd hon yn canolbwyntio ar ddatblygiadau diweddar ym maes cemeg planhigion. Rhoddir sylw arbennig i’r ffordd y defnyddir echdynion planhigion neu gyfansoddion wedi’u puro fel cyfryngau i amddiffyn planhigion, cynhwysion mewn cosmetigau, deunyddiau pecynnu a defnyddiau diwydiannol eraill. Bydd y siaradwyr yn y gynhadledd hon yn arbenigwyr o lywodraeth, diwydiant ac academia. Gwahoddir ymchwilwyr sy’n gweithio ym maes cemeg planhigion i ddod i’r achlysur hynod berthnasol hwn.
Gwahoddir ceisiadau i roi cyflwyniadau llafar a phoster; cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Dr. Vera Thoss erbyn 30 Mehefin 2011.
