Newyddion a Digwyddiadau
- Gall dulliau’r gwasanaeth iechyd helpu'r heddlu fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mwy...
- Athro Gwadd mewn Iechyd Plant a Nyrsio Plant. Mwy...
- Plant a phobl ifanc yn rheoli epilepsi yn y cartref: Astudiaeth CHYME Mwy...
- Sut mae ymchwil gwyddor chwaraeon yn dylanwadu ar ofal meddygol Mwy...
- Rhoi cyfle i’r gymuned glywed am yr ymchwil ddiweddaraf i Reoli Cyflyrau Tymor Hir Mwy...
- Athro 'Food Dudes' yn cael ei benodi’n Arbenigwr Ewropeaidd. Mwy...
- Arbenigwyr canser yn dod ynghyd mewn Cynhadledd ym Mangor. Mwy...
- Y gwelliannau mwyaf yng nghyfnodau diagnosio canserau’r coluddion, yr oesoffagws a’r pancreas. Mwy...
- Helpu cwmni lleol sydd wedi datblygu ac ennill y farchnad ar gyfer cynnyrch awyr agored. Mwy...
- Prifysgol Bangor ar eich ffôn symudol. Mwy...
- Y Gyntaf yng Ngwynedd. Mwy...
- Gwobr o’r Unol Daleithiau i arbenigwr mewn Heneiddio. Mwy...
- Gall yfed gormod o ddiodydd siwgraidd bylu’n gallu i flasu a’n mwynhad ohonynt. Mwy...
- Ysgoloriaethau Dathlu. Mwy o fanylion.
Mae gan y Coleg dros 3000 o fyfyrwyr a 300 o staff academaidd a gweinyddol, ac mae'n cynnwys pedair ysgol academaidd a dau sefydliad ymchwil:
Mae'r Coleg, trwy'r Brifysgol, wedi sefydlu cysylltiad swyddogol gyda Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr, gan alluogi agwedd integredig i ddatblygu ymchwil, hyfforddiant, meddygol ac addysg gofal iechyd i ateb anghenion gogledd Cymru. Mae'r Bwrdd Iechyd, y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, yn cyflogi 18,000 o staff yn darparu gwasanaeth i tua 676,000 o drigolion gogledd Cymru.
Er bod pob ysgol/sefydliad yn cadw ei hunaniaeth benodol a'i ffiniau pynciol, mae’r Coleg yn meithrin cydweithrediad rhwng ysgolion a nodau ac ymarferion academaidd cyffredin.
Mae ein dysgu'n seiliedig ar ymchwil gydweithredol gyda'r goreuon yn y byd - cafodd Seicoleg y sgôr uchaf bosib sef 5*A yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil (dim ond chwe adran arall gafodd y sgôr hon) felly hefyd Ysgol y Gwyddorau Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer. Golyga hyn fod myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio gydag academyddion sydd yn flaenllaw yn eu disgyblaethau academaidd, pa un ai perfformiad chwaraeon elit, hyfforddiant nyrsys neu ddelweddu ymennydd fMRI.
Ynghyd â gallu ymchwil y Coleg, mae iddo enw da iawn am addysgu a chefnogi myfyrwyr. Mae’r Ysgolion Gwyddorau Gofal Iechyd, Seicoleg a'r Ysgol Gwyddorau Iechyd ac Ymarfer (SHES) yn adnabyddus yn genedlaethol am gynnig addysgu o’r radd flaenaf yn eu meysydd eu hunain.
Mae SHES yn aml yn cael ei rhengu ymysg y deg Ysgol Gwyddorau Chwaraeon gorau ym Mhrydain ac yn yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diwethaf, mynegodd 98% o fyfyrwyr SHES eu bod yn fodlon gyda'r dysgu brwdfrydig ar eu cwrs. Canmolwyd ymroddiad yr Ysgol i roi sylfaen ymchwil gadarn i'w cyrsiau gan arholwr allanol a dywedodd "... Yn eu projectau blwyddyn olaf, perfformiodd myfyrwyr Prifysgol Bangor yn well na myfyrwyr ar gyrsiau tebyg mewn prifysgolion eraill ym Mhrydain."
Mae cyrsiau israddedig Ysgol Seicoleg wedi eu rhengu ymysg y pump uchaf ym Mhrydain ac wedi derbyn statws 'Rhagorol' gan yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd. Mae'r adran wedi cael ei ddisgrifio gan arholwr allanol fel ysgol sydd yn "cynhyrchu rhai o israddedigion seicoleg gorau ym Mhrydain," ac mae ei ymchwil wedi rhengu o fewn y deg uchaf.
Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn cyfuno y lefel uchaf o addysgu gyda phrofiad ymarferol. Roedd yr Ysgol yn y safle uchaf yng Nghymru yn y tabl diweddaraf Cynghrair y Guardian ac yn 18fed yn y DU yn gyffredinol yn y 'Complete University Guide 2012'