UWB Crest

Music and Concerts at Bangor University

Messiah Handel o’r dechrau

Nos Sadwrn 26 Medi, Neuadd Prichard-Jones

Bydd tymor 2009-10 Cerddoriaeth ym Mangor yn dechrau gyda phroject newydd a chyffrous:  gweithdy corawl undydd yn arwain at berfformiad o Fessiah Handel gyda’r nos, gyda chyfeiliant cerddorfa lawn.  Pam na wnewch chi ymuno â ni am ddiwrnod difyr o ymdrin â cherddoriaeth?  Mae croeso i bawb, beth bynnag fo eich oed a’ch profiad cerddorol – hyd yn oed os nad ydych erioed wedi canu’n gyhoeddus o’r blaen.
 
10am tan 4pm:  Gweithdy.  Costau cymryd rhan: £10 pris llawn, £7 gostyngiadau a £2 i blant ysgol.  Ni chodir tâl am gymryd rhan ar staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor, na rhai sy’n prynu tocyn tymor.  Gellir benthyca sgoriau am ddim ar y diwrnod ond, os oes gennych gopi, dewch ag o gyda chi os gwelwch yn dda.  Bydd te a choffi ar gael a cheir seibiant o awr i ginio.

7.30pm: Cyngerdd:  Tocynnau i’r gynulleidfa:  £5 pris llawn, £3.50 gostyngiadau, £2.50 myfyrwyr, £1 plant ysgol.