Gwasanaeth Cynadleddau Prifysgol Bangor
O goffi bore i fwffe moethus – does dim yn rhy fach neu'n ormod i’n tîm 'Bwyd@Bangor'. Byddant yn dosbarthu’r hyn yr ydych wedi ei archebu i unrhyw le – eich swyddfa, ystafell gyfarfod neu unrhyw un o ystafelloedd cyhoeddus y Brifysgol. Mae Bwyd@Bangor hefyd ar gael y tu allan i’r Brifysgol fel rhan o’n gwasanaeth rheoli digwyddiadau. Edrychwch ar y dudalen digwyddiadau am ragor o fanylion.
Rydym yn ymdrechu i gynnig ansawdd a gwerth am arian yn ein holl fwydlenni, ac i’ch helpu i ddewis y cynnyrch gorau am y pris cywir, rydyn ni’n cynnig dewis eang o eitemau o luniaeth syml, i ginio busnes neu fwffe dau neu dri chwrs mwy ffurfiol.
Yn ogystal â’r prif fwydlenni, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o eitemau y gellir eu harchebu i gyd-fynd â’ch dewis, ynghyd â dewis o deisennau a diodydd poeth ac oer.
Edrychwch drwy’r amrywiaeth lawn o fwydlenni a’r dewisiadau ychwanegol i gael hyd i’r dewis sy’n addas ar gyfer eich achlysur chi. Cliciwch yma i weld ein bwydlenni Bwyd@Bangor.
Gall ‘Arlwyo i Chi’ hefyd arlwyo ar gyfer digwyddiadau arbennig a chynadleddau. Os oes gennych rywbeth penodol mewn golwg na ellwch ddod o hyd iddo ar ein bwydlenni, neu eich bod yn dymuno trafod eich gofynion mewn mwy o fanylder, cysylltwch â’r Swyddfa Gynadleddau’n uniongyrchol. Bydd yn bleser ganddynt helpu gyda chyngor ar fwydlenni, lleoliadau a chostau.