Gwasanaeth Cynadleddau Prifysgol Bangor
Mae Gwasanaethau Cynadleddau Prifysgol Bangor yn cynnig pecyn cynhwysfawr o gyfleusterau a gwasanaethau i drefnwyr cynadleddau.
Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein gallu i ddarparu gwasanaeth sy’n bersonol ac yn hyblyg, gydag amrywiaeth eang o ystafelloedd cyfarfod, dewisiadau arlwyo a staff arbenigol i gynorthwyo’r trefnydd. Rydyn ni’n darparu’r gefnogaeth sydd arnoch ei hangen i gyrraedd eich nod - cynhadledd lwyddiannus, gofiadwy.
Mae gan Fangor nifer o leoliadau ar gyfer bob math o achlysuron a digwyddiadau, fel cynadleddau preswyl, cyfarfodydd undydd, diwrnodau hyfforddi o’r gwaith, darlithoedd, lansio cynnyrch, derbyniadau, arddangosfeydd, cyfarfodydd alumni neu seremonïau gwobrwyo.
Mae’n hawdd ein cyrraedd â char/bws a'r trên, ond eto, mae’n debygol o fod yn lleoliad gwahanol i lawer o’ch cynadleddwyr. Mae cwsmeriaid yn y gorffennol wedi dweud bod y newid amgylchedd ac awyrgylch tawel Bangor wedi galluogi i gynadleddwyr ganolbwyntio go iawn ar y gwaith dan sylw, heb sôn am y golygfeydd godidog amgylchynol a’r mynediad rhwydd at lu o adnoddau naturiol.
Gellwch wneud ymholiad drwy ein ffonio neu anfon e-bost atom. Byddwn yn dod o hyd i’r lleoliadau mwyaf addas, y rhai hynny â chyfleusterau i gyd-fynd â’ch gofynion, dyddiadau a’ch cyllideb. Byddwn yn trafod eich holl ofynion gyda chi, ac yn gallu defnyddio ein gwybodaeth eang am y brifysgol i’ch cynghori ar elfennau penodol eich cynhadledd.
Os hoffech drafod gofynion eich cynhadledd, cysylltwch â ni.