UWB Crest

Gwasanaeth Cynadleddau Prifysgol Bangor

Digwyddiadau

Slideshow of images for Gwasanaeth Cynadleddau Prifysgol Bangor

Gyda’n staff dawnus, ein rheolwyr profiadol a’n hamrywiaeth eang o leoliadau, rydyn ni’n hyderus y gallwn ni eich helpu i drefnu digwyddiad i’w gofio.
Yn y gorffennol, rydyn ni wedi gweithio gyda sefydliadau cenedlaethol i drefnu a chefnogi digwyddiadau codi arian, trefnu ciniawau ffurfiol, cyngherddau, ac wedi helpu ein cwsmeriaid fwynhau derbyniadau priodas a digwyddiadau cymdeithasau cofiadwy.

Llyfryn Cynadleddau

Yma i helpu . . .

Mae ein Tîm Digwyddiadau yma i’ch helpu i wireddu eich gweledigaeth a thynnu’r pwysau trefnu oddi arnoch fel y gellwch fwynhau digwyddiad heb straen ynghyd â’ch gwesteion.
Mae ein staff yn ymwneud â digwyddiadau myfyrwyr yn rheolaidd hefyd. Os ydych chi’n rhan o glwb neu’n swyddog adloniant ystafell gyffredin, rhowch wybod eich syniadau i ni, a byddwn ni’n eu gwireddu!

Gwneud ymholiad . . .

Gellwch wneud ymholiad drwy ein ffonio neu anfon e-bost atom. Byddwn yn dod o hyd i’r lleoliadau mwyaf addas, y rhai hynny â chyfleusterau i gyd-fynd â’ch gofynion, dyddiadau a’ch cyllideb. Byddwn yn trafod eich holl ofynion gyda chi, ac yn gallu defnyddio ein gwybodaeth eang am y brifysgol i’ch cynghori ar elfennau penodol eich digwyddiad.
Pan fyddwch yn hapus gyda’n cynnig, rydyn ni’n argymell i chi ymweld cyn eich digwyddiad, a’ch bod yn archebu ‘dros dro’ gynted ag sy’n gyfleus i chi, gan fod ein lleoliadau yn cael eu harchebu yn gyflym iawn.

Mi fyddwn ni’n gofalu amdanoch . . .

Bydd ein Tîm Cynadleddau yn gofalu am eich holl anghenion yn ymwneud â’ch digwyddiad, a bydd yn bleser ganddynt helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych ynghylch teithio neu weithgareddau eraill yn ystod eich ymweliad, fel teithiau tywys neu adloniant.