UWB Crest

Gwasanaeth Cynadleddau Prifysgol Bangor

Teithiau Addysg

Slideshow of images for Gwasanaeth Cynadleddau Prifysgol Bangor

Rydym yn falch o gefnogi amcanion addysgol y Brifysgol drwy ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau i ysgolion a phrifysgolion sy’n ymweld â gogledd Cymru.

Os ydych chi’n chwilio am leoliad ar gyfer gwaith maes, neu angen cyflwyniad i gwrs addysg uwch i’ch disgyblion, rydyn ni’n gweithio’n agos â gwasanaethau recriwtio myfyrwyr y Brifysgol, ac rydyn ni bob amser yn hapus ymateb i ofynion penodol.

Llety ac Arlwyo

Mae ein holl ystafelloedd yn rhai sengl, en-suite, ac eithrio ein hystafelloedd safonol, sy’n sengl, ond rhennir y cyfleusterau ystafell ymolchi.

Mae ein darpariaeth arlwyo yn ceisio bod mor hyblyg ag sy’n bosibl, gan gynnig prydau gwasanaeth caffeteria a phecynnau cinio, ac rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer yr adegau yr ydych chi’n dymuno bwyta.

Cyfleusterau Ychwanegol

Yn ogystal â’ch pecyn llety, efallai y byddwch yn dymuno defnyddio ein labordai gwyddonol neu ein hystafelloedd cyfrifiaduron. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion a’ch costau.