UWB Crest

Gwasanaeth Cynadleddau Prifysgol Bangor

Teithio mewn Grŵp

Slideshow of images for Gwasanaeth Cynadleddau Prifysgol Bangor

Lle gwych i ymweld ag ef . . .

Mae gogledd orllewin Cymru yn lle gwych am wyliau mewn grŵp, gyda golygfa odidog a llawer o lefydd difyr  i ymweld â nhw. Mae yma gestyll, cylchoedd cerrig hynafol a hen fwynfeydd i ymweld â nhw, ond mae llawer o bobl yn cael eu denu gan y mynyddoedd garw a golygfa wych Parc Cenedlaethol Eryri, a gweithgareddau fel beicio mynydd a dringo.

Yma i helpu . . .

Gall trefnu gwyliau grŵp fod yn dipyn o boen, ac mae ein staff cyfeillgar, cymwynasgar yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr sy’n cyfuno ein gwybodaeth ragorol o’r ardal gyda rhwydwaith o gysylltiadau lleol arbenigol i sicrhau bod eich amserlen yn cynnig pleser a syrpreisys i’ch grŵp!
Mae Bangor yn lle delfrydol i deithio o amgylch Parc Cenedlaethol Eryri ac ardal brydferth Ynys Môn, ac eto mae’n ddigon hawdd ei chyrraedd o bob cwr o’r wlad. Gallwn awgrymu amserlenni i chi a rhoi cysylltiadau lleol i chi er mwyn trefnu llefydd i ymweld â nhw drwy drefniant arbennig.

Pecynnau Llety i Grwpiau

Mae ein pecynnau llety yn cynnig arlwyo a llety o ansawdd uchel i grwpiau mewn ystafelloedd sengl, en-suite, heb orfod talu swm ychwanegol am ystafell sengl! 
Mae’r arlwyo o safon eithriadol o uchel, gyda bwydlenni wedi eu cynllunio’n arbennig, i gynnwys brecwast llawn, pecynnau cinio neu giniawau poeth a phrydau gyda’r nos.
Mae llawer o grwpiau hefyd yn dewis cael cinio dathlu yn ystod eu harhosiad, a gallwn gynnig amrywiaeth o fwydlenni arbennig ac adloniant, fel telynor(es) neu ddisgo i wneud y noson yn gofiadwy.
Gobeithiwn y cawn bleser eich croesawu i Fangor. Mae pob croeso i chi gysylltu â ni am ragor o wybodaeth ac i gael ein llyfryn diweddaraf.

Ewch ar daith

Cliciwch yma i fynd ar daith luniau 360° o’n lletyau ar Safle Ffriddoedd. Rydyn ni wrthi’n datblygu’r elfen yma. Os ydych chi’n dymuno gweld lleoliad sydd ddim ar gael eto, mae pob croeso i chi gysylltu â ni i drefnu ymweliad, a bydd yn bleser gennym eich dangos o amgylch.

 

Mae’r holl brisiau yn cynnwys TAW.

Prisiau Gwyliau Gweithgar

Math o lety

Prisiau oedolion

Plant dan 16 oed

Prydau Llawn
Swper, Gwely a Brecwast a Phecyn Cinio

£42.40

£36.36

Hanner Prydau
Swper, Gwely a Brecwast

£36.31

£30.32

Gwely a Brecwast
Mae’n cynnwys brecwast llawn wedi’i goginio neu frecwast cyfandirol

£25.97

£22.47

Hunan-arlwyo
Darperir pecynnau offer

£19.88

£15.90

Prisiau Gwyliau Treftadaeth

Math o lety

Prisiau oedolion

Prydau Llawn #1
Swper, Gwely a Brecwast a Phecyn Cinio

£52.74

Prydau Llawn #2
Swper, Gwely a Brecwast a Chinio Bwffe

£54.23

Prydau Llawn #3
Swper, Gwely a Brecwast a Chinio Poeth

£54.23

Hanner Prydau
Swper, Gwely a Brecwast

£46.85

Gwely a Brecwast
Mae’n cynnwys brecwast llawn wedi’i goginio neu frecwast cyfandirol

£29.15

(Darperir Tyweli)

Arlwyo Ychwanegol

Ciniawau ffurfiol 3 chwrs o £17.44