UWB Crest

Gwasanaeth Cynadleddau Prifysgol Bangor

Llety Gwyliau

Slideshow of images for Gwasanaeth Cynadleddau Prifysgol Bangor

Llety Gwyliau i Unigolion a Grwpiau Bychain

Mae pob ystafell wely yn ystafell sengl, en-suite, gyda chawod a thoiled. Darperir tyweli a dillad gwely.
Mae’r ystafelloedd gwely wedi eu trefnu mewn unedau o 8 ystafell yn rhannu cegin. Caiff gwesteion eu rhoi mewn ystafelloedd gyferbyn â'i gilydd lle bynnag bo’n bosibl. Mae gan y gegin fyrddau a chadeiriau, a phopty, microdon, tegell ac oergell. Mae croeso i chi ddefnyddio’r cyfleusterau hyn, ond ni ddarperir sosbenni, llestri nac offer.

Gwely a Brecwast

Os dewiswch Wely a Brecwast, byddwch yn derbyn brecwast llawn, yn cynnwys brecwast wedi’i goginio a math cyfandirol, wedi’i weini ar ffurf hunan-wasanaeth yn ein prif gaffeteria. Bydd brecwast ar gael o 7.30am tan 9.00am.

Ystafelloedd yn Unig

Os dewiswch Ystafell yn Unig, mae’r gegin a rennir ar gael ar gyfer hunan-arlwyo, ond NI ddarperir sosbenni, llestri nac offer. Dylech ddod â’r rhain eich hun

Cyrraedd a Gadael Ystafell

Cewch gofrestru wrth Dderbynfa Safle Ffriddoedd o 2pm tan 8pm i gael mynd i mewn i’ch ystafell, a rhaid gadael ystafelloedd a dychwelyd allweddi erbyn 9.30am ar y diwrnod gadael. Mae rhywun yn swyddfa’r porthorion 24 awr i rai sy’n cyrraedd yn hwyr ac unrhyw broblemau.

Plant

Nid yw’r llety’n addas i blant ieuengach na 11. Rhaid i blant fod yn 11 oed neu hŷn ar adeg eu hymweliad, a rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

Ewch ar daith

Cliciwch yma i fynd ar daith luniau 360° o’n lletyau ar Safle Ffriddoedd.