Datganiad Anabledd Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn datgan mai ei nod yw cymryd pob cam ymarferol bosibl i alluogi i fyfyrwyr ag anableddau cyfranogi yn llawn i bob agwedd o fywyd prifysgol. (http://www.bangor.ac.uk/ar/main/ssc/cymraeg/welfare.htm#publications)
Fel sefydliad rydym yn gweithio i wneud yr wybodaeth sydd gennym ar y we yn hygyrch. Ein nod yw darparu fersiwn testun yn unig o bob tudalen ac i wneud ein tudalennau graffigol yn hygyrch i bob ymwelydd y we.
Safonau
- Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ledled ein presenoldeb ar y we i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â lefel 1 (A) yn llawn a hynny sy'n bosibl o lefel 2 (AA) yn rheolfa hygyrchedd Canllawiau Menter Hygyrchedd Gwefannau'r W3C, fel ei ddehonglir gan Dîm y We'r Brifysgol. Pe baech chi'n dod ar draws unrhyw anawsterau yn gysylltiedig â hygyrchedd tudalennau, gadewch i ni wybod drwy adrodd y broblem i webteam@bangor.ac.uk
- Y nod yw bod pob tudalen ar y wefan hon yn ddilys fel XHTML 1.0 Trawsnewidiol, ac yn defnyddio CSS 2.1 ar gyfer cyflwyniad gweledol. Rydym yn cadw'r defnydd o dablau ar gyfer gwybodaeth nad oes rhaid iddo fod mewn tabl i isafswm. Gall hyn achosi porwyr hŷn (e.e. Netscape 4.x) sydd ddim yn deall codau safonau i gyflwyno tudalennau sylfaenol mewn ffordd ddefnyddiol. Rydym yn awgrymu eich bod yn uwchraddio eich porwr i'r fersiwn ddiweddaraf i gymryd mantais lawn o nodweddion blaengar y safle.
- Mae'r holl dudalennau ar y safle hwn yn defnyddio ‘structured semantic markup'.
Bysellau Mynediad
Mae Bysellau Mynediad yn eich galluogi i symud yn sydyn i ardaloedd sy'n cael eu defnyddio'n rheolaidd o fewn y wefan heb ddefnyddio eich llygoden.
Defnyddwyr Windows , teipiwch ALT + bysell mynediad
Defnyddwyr Macintosh teipiwch CTRL + bysell mynediad
Mae'n debyg y bydd rhaid i ddefnyddwyr Internet Explorer hefyd wasgu ‘enter'.
Bysellau Mynediad
- 0 – Manylion Bysellau Mynediad
- 1 - Hafan
- 2 - Newyddion
- 3 – Map o'r safle
- 4 - Chwilio
- 9 – Adborth
Os hoffech fwy o wybodaeth neu os ydych yn cael problemau gyda'r wefan, cysylltwch â webteam@bangor.ac.uk