UWB Crest

Y Brifysgol

Hanes cryno Prifysgol Bangor

Delwedd o Lyfrgell Shankland

Cafodd Prifysgol Bangor ei sefydlu o ganlyniad i ymgyrch yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg dros ddarparu gwell addysg uwch yng Nghymru. Agwedd bwysig ar yr ymgyrch codi arian i sefydlu coleg statws prifysgol ym Mangor, oedd y cyfraniadau gwirfoddol a wnaed gan chwarelwyr lleol o'u tâl wythnosol dros nifer o flynyddoedd.

Agor ei drysau yn 1884…

Agorwyd y Brifysgol mewn hen dafarn y goets fawr ym mis Hydref 1884.  Sefydlwyd fel Coleg Prifysgol Gogledd Cymru gyda 58 myfyriwr a 12 aelod o staff academaidd. 

Darparwyd y graddau gan Brifysgol Llundain tan 1893 pan ddaeth Prifysgol Cymru Bangor yn un o dri aelod gwreiddiol Prifysgol Cymru.

Y lleoliad…

I gychwyn, roedd y Coleg wedi’i leoli mewn hen dafarn y goets fawr, gynt y Penrhyn Arms. Yn fuan iawn, daeth yn amlwg y byddai’n rhaid cael adeiladau mwy eu maint a rhai mwy cyfleus.  Ym 1903, cyflwynodd dinas Bangor safle 10 erw ym Mhenrallt uwchben y ddinas ar gyfer adeilad newydd, a chodwyd arian sylweddol gan y bobl leol i dalu amdano.  Gosodwyd carreg sylfaen yr adeilad hwn ym 1907, a phedair blynedd yn ddiweddarach agorwyd y prif adeilad, lle mae’r weinyddiaeth erbyn hyn, ynghyd â rhai o adeiladau’r celfyddydau a gwyddorau cymdeithas a rhan o’r Llyfrgell.

Arhosodd Adrannau’r Gwyddorau yn y Penrhyn Arms am bymtheng mlynedd arall. Yn 1926 symudodd yr adrannau i adeiladau pwrpasol a godwyd â chymorth Cronfa Goffa Glewion Gogledd Cymru.

Twf mawr…

Bu twf mawr yn y 1950au a’r 1960au pan gododd nifer y myfyrwyr i dros 2,000.  Yn sgil y datblygiad hwn cafwyd disgyblaethau academaidd newydd (megis Seicoleg, Gwyddorau Eigion, Ieithyddiaeth ac Electroneg), ynghyd â rhagor o staff ac adeiladau.  O’r 1960au hefyd dechreuodd ymrwymiad sylfaenol i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Parhaodd y cynnydd drwy’r 1980au a’r 1990au gyda chyflwyniad cyrsiau newydd mewn nyrsio a bydwreigiaeth, er ei bod wedi ei chyllido ar wahân gan y GIG yng Nghymru. Dwy flynedd yn ddiweddarach ychwanegwyd Radiograffeg at bortffolio Cyfadran newydd Astudiaeth Iechyd sydd bellach yn gweithredu o ddwy ganolfan, sef Bangor a Wrecsam. Ym 1996 unwyd Coleg Normal Bangor, sefydliad hyfforddi a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1858, gyda’r Brifysgol, gan sefydlu Cyfadran Addysg. Cymeradwywyd teitl newydd y sefydliad, sef ‘Prifysgol Cymru, Bangor’ yn ffurfiol gan y Cyfrin Gyngor ym 1997.

Heddiw…

Heddiw, mae gan y Brifysgol dros 9000 o fyfyrwyr, 20 adran a dros 600 o staff dysgu.

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ddarparu dysgu o’r ansawdd uchaf, cynnal ymchwil o’r ansawdd uchaf, gofalu’n dda am ei myfyrwyr a chwarae rhan lawn yng nghymuned ehangach gogledd Cymru.