Cyrsiau
Mwy o wybodaeth...
Mae mwy o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nag yn unrhyw un o’r prifysgolion eraill yng Nghymru.
Mae Bangor yn cynnig cyfleoedd gwych i’r myfyriwr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn cynnig mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw Brifysgol arall yng Nghymru.
Gradd yn y Gymraeg
Gellwch wneud y cyfan o’ch gradd, neu ran ohoni drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sawl ysgol academaidd. Mae modiwlau unigol cyfrwng Cymraeg hefyd ar gael mewn ysgolion eraill.
Mae'r Ysgol Astudiaethau Trwy'r Gymraeg yn rhan bwysig o Brifysgol Bangor. Gwaith yr Ysgol yw ceisio sicrhau bod nifer cynyddol o bynciau yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar hyn o bryd mae dros 700 o'n myfyrwyr bellach yn dilyn cwrs cyfan neu ran o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Pam astudio drwy’r Gymraeg?
- Mae angen pobl ddwyieithog mewn pob math o swyddi
- Mae gofyn mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweinyddu’n ddwyieithog
- Mae cyflogau swyddi dwyieithog ar gyfartaledd uwch
- Bydd astudio trwy’r Gymraeg yn y Brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa
Dewiswch gwrs
Am gymorth, codwch y ffôn neu e-bostiwch ni
Os ydych chi eisiau trafod unrhyw beth neu angen mwy o wybodaeth, codwch y ffôn neu e-bostiwch yr Uned Recriwtio Myfyrwyr. Mi fedran nhw yrru prosbectws atoch, trefnu ymweliad neu drefnu lle i chi ar ein Diwrnodau Agored.