UWB Crest

Cyrsiau

Cyrsiau i ôl-raddedigion

Delwedd yn dangos dau fyfyriwr ôl-raddedig

Dwyieithrwydd (MA)

Disgrifiad

Mae’r MA mewn Dwyieithrwydd yn rhoi rhaglen o astudiaethau lefel graddedigion ym maes eang dwyieithrwydd, yn ogystal â hyfforddiant ymchwil yn y maes hwn.  Mae’n cynnwys elfen hyfforddedig, yn cynnwys cyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol, a thraethawd hir ymchwil 20,000 o eiriau.

Mae’r cwrs yn rhoi rhaglen gynhwysfawr, amrywiol a hyblyg o hyfforddiant mewn pynciau amlddisgyblaethol, yn gysylltiedig ag astudio dwyieithrwydd, yn cynnwys materion yn gysylltiedig ag iaith, addysg a gwybyddiaeth. Pwrpas y cwrs yw rhoi i fyfyrwyr y sgiliau damcaniaethol, dadansoddol a methodolegol angenrheidiol i wneud ymchwil uwch ym maes dwyieithrwydd.

Mae elfen hyfforddedig yr MA yn digwydd dros semester 1 a 2. Rhaid i fyfyrwyr gymryd tri modiwl sylfaen (oni bai bod ganddynt dystiolaeth iddynt gymryd y modiwlau cyfatebol eisoes): Meaning: Semantics/Pragmatic, Sentence Structure: Syntax , Sounds and Sound Structure . Bydd y modiwlau hyn yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i elfennau methodolegol a damcaniaethol craidd astudio iaith.  Rhaid i fyfyrwyr hefyd gymryd ‘Bilingualism: Research and Methods’ – modiwl traws-ddisgyblaethol sy’n edrych ar wahanol elfennau o ymchwil, theori, a dulliau o fewn dwyieithrwydd o nifer o wahanol safbwyntiau – ac o leiaf 30 credyd mewn hyfforddiant ymchwil.

Modiwlau a chredydau

Modiwlau eraill yn gysylltiedig ag iaith:

Dwyieithrwydd: 40 credyd o leiaf

Rhaid i bob myfyriwr gymryd y modiwl newydd canlynol:

  • Bilingualism: Research and Methods (20 credyd)

ac un o’r modiwlau canlynol:

  • Current Issues in Bilingualism (20 credyd)
  • Bilingualism and Thought (20 credyd)

Hyfforddiant Ymchwil: 20 credyd o leiaf

Rhaid i fyfyrwyr gymryd o leiaf un o’r modiwlau canlynol:

  • Research Methods (30 Credyd)
  • Issues in Qualitative & Quantitative Analysis (15 credyd)
  • Advanced Statistics (15 credyd)

Mae’r modiwlau canlynol ar gael mewn hyfforddiant ymchwil:

  • SPSS for Postgraduate Research (10 credyd)
  • Linguistics Research Training (10 credyd)
  • Application of IT to Data Handling (10 credyd)

Modiwlau Traethawd Hir: 60 credyd

Rhaid i fyfyrwyr gymryd un o’r canlynol:

  • Research Module in Linguistics (60)
  • Research Module in Psychology (60)
  • Research Module in Education (60)

Cyswllt

Dr Enlli Thomas

Ffôn

01248 383962

E-bost

enlli.thomas@bangor.ac.uk

Gwefan

www.bilingualism.bangor.ac.uk/index.php.cy?

Cymhwyster

MA

Hyd  

Blwyddyn yn llawn-amser

Mynediad

Gradd gyntaf dosbarth 2(i) neu uwch, mewn Ieithyddiaeth, Seicoleg, Addysg neu faes cysylltiedig.

Cliciwch yma am y fersiwn Saesneg o’r dudalen hon.