UWB Crest

Cyrsiau

Cyrsiau i ôl-raddedigion

Delwedd yn dangos dau fyfyriwr ôl-raddedig

Therapi Galwedigaethol (Diploma Ôl-radd)

Disgrifiad

Datblygodd y Cwrs Therapi Galwedigaethol hwn (Diploma Ôl-radd TG) o gydweithio rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd.

Mae cwricwlwm y cwrs Therapi Galwedigaethol dwy flynedd yn gymhwyster academaidd ar lefel uwch na'r BSc (Anrhydedd)  a enillir ar ôl cwblhau'r llwybrau llawn-amser a rhan-amser. Dylai darpar fyfyrwyr gadw mewn cof bod amserlen y cwricwlwm yn drwm iawn, a bod traean o'r astudiaethau ar lefel Meistr.

Mae’r dulliau dysgu a ddefnyddir ar y cwrs Therapi Galwedigaethol yn canolbwyntio ar ddysgu trwy ddatrys problemau a chyfleoedd dysgu cydnaws eraill sy'n defnyddio arbenigedd astudio dysgwyr ôl-radd. Trwy hyn mae graddedigion yn cael rhaglen sy’n datblygu eu sgiliau academaidd, yn ogystal â chyflawni gofynion y cyrff Therapi Galwedigaethol proffesiynol perthnasol a thrwy hynny’n eu galluogi i gofrestru ac ymarfer gyda'r wladwriaeth ar ôl cwblhau eu hastudiaethau. Cofrestrir gyda’r Cyngor Gweithwyr Iechyd Proffesiynol.  

Ar ôl cofrestru, caiff therapyddion galwedigaethol  y dyfarnwyd diploma ôl-radd iddynt gwerth 120 o gredydau lefel M mewn Therapi Galwedigaethol  gofrestru ar gyfer astudiaethau pellach (60 credyd) i ennill gradd lefel Meistr os dymunant hynny. Byddai hyn ar ffurf traethawd byr ar sail gwaith ymchwil a wnaed fel clinigydd.  

Dyddiadau’r Cwrs

Cynigir y rhaglen Diploma Therapi Galwedigaethol bob mis Ionawr, ac fe ddechreuodd yn 2004, ar ôl cael ei ddilysu'n llwyddiannus gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol Caerdydd a’r Coleg Therapyddion Galwedigaethol a’r Cyngor Gweithwyr Iechyd Proffesiynol yn hydref 2003.

Iaith gyflwyno

Cyflwynir y rhaglen Therapi Galwedigaethol trwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf. Rhoddir cefnogaeth ac anogaeth weithredol i’r defnydd o’r Gymraeg lle bo’n bosib. Mae hyn yn cynnwys gwaith wedi ei asesu’n unigol a thiwtorialau wedi eu hwyluso trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae dogfennau dwyieithog ar y cwrs ar gael i bawb am ddim. Gall myfyrwyr ofyn hefyd am gael eu hystyried ar gyfer lleoliadau penodol sy'n defnyddio'r iaith Gymraeg yn bennaf ac sy’n rhoi pwys mawr arni.   

Fframwaith y Rhaglen Therapi Galwedigaethol  

Cynigir y rhaglen Therapi Galwedigaethol ddwys hon yn llawn-amser dros ddwy flwyddyn galendr. Er mwyn cyflawni gofynion addysgol y corff proffesiynol ‘Coleg y Therapyddion Galwedigaethol’ mae’r cwricwlwm yn rhedeg dros 45 wythnos ym mhob blwyddyn galendr, cyfanswm o 90 wythnos i gyd. Mae’r 45 wythnos yn cael eu trefnu rhwng Ionawr a Rhagfyr.  

Yn unol â gofynion Ffederasiwn Therapyddion Galwedigaethol y Byd, mae dros 1000 o oriau o’r rhaglen yn cael eu neilltuo i leoliadau gwaith maes mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gwasanaeth. Mae’r rhain yn digwydd ar adegau penodol trwy gydol y rhaglen.  

Prifysgolion Dyfarnu

Cynigir y rhaglen Therapi Galwedigaethol ar ddau safle ar yr un pryd: Bangor a Chaerdydd. Prifysgol Cymru sy'n dyfarnu cymwysterau i'r myfyrwyr sydd yn cofrestru yng Ngogledd Cymru.  

Cipolwg ar y Cwricwlwm

Mae’r rhaglen Therapi Galwedigaethol hon wedi ei chynllunio ar ffurf modiwlau, i’w cyflwyno ar ddau safle sy’n bell yn ddaearyddol oddi wrth ei gilydd (Bangor a Chaerdydd). Golyga hyn y bydd yr holl fyfyrwyr yn gwneud yr un modiwlau a'r un asesiadau ar yr un pryd. Cynhelir dau weithdy preswyl ar y cyd bob blwyddyn ar gyfer myfyrwyr o'r ddau leoliad sy'n eu galluogi i ehangu eu profiadau ymhellach. Ymgorfforir elfennau o ddysgu rhyngbroffesiynol hefyd. Bwriad lleoliadau ymarfer mewn sefyllfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol yw cysylltu â’r cwricwlwm academaidd a’i ategu.  

Mae arddull dysgu’r cwricwlwm Therapi Galwedigaethol yn adlewyrchu athroniaeth sy’n parchu profiad academaidd dysgwyr ôl-raddedig. Mae’r rhaglen yn ystyried bod sgiliau academaidd a gwybodaeth pwnc a enillwyd yn flaenorol yn werthfawr ac yn berthnasol i Therapi Galwedigaethol. Anogir myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am adnabod a monitro eu dysgu eu hunain trwy gydol y cwricwlwm. Hwylusir dysgu trwy dechnegau sy’n rhoi pwys ar waith dan gyfarwyddyd y myfyriwr ac ar addysg ryngweithiol. Mae’r technegau hyn yn cyfuno prif egwyddorion dysgu trwy ddatrys problemau mewn tiwtorialau i grwpiau bach gydag amrywiaeth o gyfleoedd addysgol eraill megis seminarau, gweithdai a darlithoedd er mwyn gwella a chyfoethogi’r elfennau tiwtorial hyn.  

Cynlluniwyd y modiwlau er mwyn integreiddio agweddau astudio ac ymarfer Therapi Galwedigaethol o fewn amrywiaeth o gyd-destunau meddygol, seicolegol a chymdeithasegol perthnasol.  

Modiwlau’r rhaglen

Elfen: Therapi Galwedigaethol: Astudiaethau Proffesiynol   

  • Therapi Galwedigaethol: Astudiaethau Sylfaen
    Nod modiwl cyntaf y rhaglen yw cyflwyno gwaith amrywiol therapyddion galwedigaethol, rôl y myfyrwyr fel ymarferwyr dan hyfforddiant ac arddull dysgu'r cwricwlwm. 
  • Therapi Galwedigaethol: Astudiaethau Proffesiynol Rhan 1
    Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu a defnyddio dealltwriaeth ehangach o asesu a chynllunio therapi galwedigaethol trwy gydol y cylchred bywyd.  Mae’r modiwl yn ystyried y cysyniad o weithiwr proffesiynol a phroffesiynoldeb ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Therapi Galwedigaethol: Astudiaethau Proffesiynol Rhan 2
    Mae’r modiwl hwn yn datblygu ar y modiwl astudiaethau proffesiynol cyntaf a’i nod yw galluogi myfyrwyr i droi anghenion canfyddadwy'r defnyddwyr gwasanaeth yn ymyriadau therapi galwedigaethol yn ogystal ag edrych ar hunaniaeth broffesiynol therapi galwedigaethol mewn perthynas â phroffesiynau eraill.
  • Therapi Galwedigaethol: Astudiaethau Proffesiynol Rhan 3
    Lluniwyd y modiwl astudiaethau proffesiynol olaf i alluogi myfyrwyr i adfyfyrio ynglyn â’u hunaniaeth broffesiynol ac ymarfer broffesiynol yn y maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol, maes sy’n newid yn ddi-baid. Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i asesu hunan reolaeth ac, i ryw raddau, rheolaeth dros bobl eraill.
  • Sgiliau ymchwil ar gyfer ymarfer
    Nod y modiwl hwn yw cynorthwyo myfyrwyr i nodi’r angen i therapyddion galwedigaethol a’r proffesiwn ei hun weld gwerth yn y cysyniad o ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth. Ceisia'r modiwl alluogi myfyrwyr i ganolbwyntio a dadansoddi a datblygu galluoedd mewn amrywiaeth eang o fethodolegau ymchwil a ddefnyddir mewn ymchwil ym maes therapi galwedigaethol.
  • Astudiaeth ddewisol
    Lluniwyd y modiwl hwn fel profiad dysgu mewn agwedd gymhleth ar ymarfer a ddewiswyd gan y myfyriwr cyn ennill cymhwyster. Mae’n cynnwys cyfuniad o elfennau ymarferol, damcaniaethol ac adfyfyriol.

Elfen: Modiwlau Astudio Cylchred Bywyd

  • Ymwneud Galwedigaethol yn y Cylchred Bywyd: Plant, Oedolion ac Oedolion Hŷn
    Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ystyried pwysigrwydd a natur ymwneud galwedigaethol ar gyfer plant, oedolion ac oedolion hŷn. Bydd y modiwl hwn yn datblygu ar bwysigrwydd galwedigaeth a astudiwyd mewn modiwlau eraill a’i ddefnyddio ar unigolion o oedran gwahanol.
  • Toriad Galwedigaethol yn y Cylchred Bywyd: Plant, Oedolion ac Oedolion Hŷn
    Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o achosion, effaith a'r cyfyngiadau galwedigaethol a brofir gan unigolion o ganlyniad i broblemau biolegol, seicolegol a chymdeithasol.
  • Gwerthuso Galwedigaeth yn y Cylchred Bywyd: Plant, Oedolion ac Oedolion Hŷn
    Nod y modiwl hwn yw canolbwyntio ar gymhlethdod y sgiliau a’r wybodaeth a ddefnyddir gan y therapydd galwedigaethol wrth werthuso toriadau galwedigaethol, gan dynnu ar wybodaeth a gasglwyd trwy astudiaethau blaenorol.

Elfen: Addysg Ymarfer

  • Lleoliad Ymarfer - Asesu
    Datblygu sgiliau asesu. 
  • Lleoliad Ymarfer - Cynllunio
    Datblygu sgiliau cynllunio ynghyd â chyfnerthu’r sgiliau asesu. 
  • Lleoliad Ymarfer – Ymyrryd  
    Datblygu sgiliau ymyrryd ynghyd â chyfnerthu’r sgiliau asesu a chynllunio.
  • Lleoliad Ymarfer – Gwerthuso’n feirniadol
    Datblygu sgiliau gwerthuso’n feirniadol ynghyd â chyfnerthu’r sgiliau asesu, cynllunio ac ymyrryd.

Asesiadau

Integreiddir asesiadau trwy gydol y cwricwlwm. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith cwrs, amrywiaeth o wahanol aseiniadau yn ogystal ag arholiadau ysgrifenedig a llafar. Rhaid cwblhau pob lleoliad ymarfer yn llwyddiannus.  

Digwyddiadau ar gyfer Darpar-Fyfyrwyr Therapi Galwedigaethol  

Cynhelir Dyddiau Agored gan Brifysgol Bangor ble bydd cyfle i chi drafod y cwrs gyda darlithwyr (yn cynnwys sut i gryfhau eich cais), dysgu mwy am y cwrs a chyfarfod myfyrwyr sy'n astudio'r cwrs. Cliciwch yma i gael dyddiadau'r Dyddiau Agored nesaf, mwy o wybodaeth a manylion cofrestru.  

Cyllid

Gall darpar fyfyrwyr sy’n byw yn y DU wneud cais am le dan nawdd bwrsariaeth GIG sy’n talu am ffioedd dysgu ynghyd â grant cynhaliaeth. Er mwyn cael gwybodaeth am gymorth ariannol i gefnogi eich dysgu, ewch i’r wefan www.direct.gov.uk/adultlearning neu cysylltwch â’r rhif 0800 100 900.  

Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n byw yn y DU. Yn achos myfyrwyr sy’n talu drostynt eu hunain, gosodwyd y ffioedd blynyddol ar gyfer 2010 ar £3,390 (mae Cartref yn cynnwys y UE ac Ynysoedd y Sianel) ac mae’r Ffi Ryngwladol ar gyfer 2010/11 yn £11,010.

Cyswllt

Swyddog Derbyniadau’r Ysgol: Susan Metcalfe

NEU

I gael pecyn gwybodaeth: Uned Recriwtio Myfyrwyr, Prifysgol Bangor, Bangor.

Ffôn

01248 383112

E-bost

s.metcalfe@bangor.ac.uk

NEU

prospectus@bangor.ac.uk

Gwefan

http://www.bangor.ac.uk/healthcaresciences/index.php.cy?

Cymhwyster

Diploma Ôl-radd mewn Therapi Galwedigaethol

Hyd

2 flynedd llawn-amser dwys

Mynediad a Cheisiadau

Croesewir ceisiadau ar gyfer y cwrs Therapi Galwedigaethol sy’n dechrau yn Ionawr 2010 cyn un o’r ddau ddiwrnod cau ar gyfer cyfweliadau sef:

15 Mai ar gyfer cyfweliadau yn ystod wythnos yn cychwyn 13 Gorffennaf 2009 neu 28 Awst ar gyfer cyfweliadau ar 29 Medi 2009.  

Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn raddedigion presennol neu’n bobl sy’n disgwyl graddio mewn unrhyw bwnc cyn y dyddiad dechrau ym mis Ionawr. Oherwydd y gofynion cofrestru ar gwricwlwm dwys, ffafrir ymgeiswyr sydd wedi cael gradd 2:2 neu uwch ac sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau israddedig neu astudiaethau cymwys eraill o fewn y 5 mlynedd diwethaf. Argymhellir yn gryf bod pob myfyriwr yn ennill sgiliau cyfrifiadurol megis 'Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewrop’ cyn iddynt gychwyn.

Derbynnir ffurflenni cais ar unrhyw adeg drwy gydol y flwyddyn. Ond gan mai diwedd Medi 2009 yw’r dyddiad cau ar gyfer y cwrs fydd yn dechrau yn Ionawr 2010, rhaid derbyn ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr 2010 cyn neu ar y dyddiad hwnnw.

[Neu gall y canolwyr darparu geirda mewn ffordd o’u dewis]

Neu efallai byddwch yn dymuno gofyn am becyn ymgeisio oddi wrth: prospectus@bangor.ac.uk

Rydym yn eich cynghori’n gryf i wneud copi o’ch cais a chadw prawf postio.

Cynhelir cyfweliadau darpar fyfyrwyr 2010 yn ystod wythnos yn cychwyn 13 Gorffennaf 2009 ac ar 29 Medi 2009.

Gall ymgeiswyr ddewis gwneud cais trwy’r system hon am un o'r safleoedd lle cyflwynir y rhaglen neu am y ddau.  

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â:

Uned Recriwtio Myfyrwyr
Prifysgol Bangor
Gwynedd LL57 2DG
Ffôn: 01248 383561

E-bost: prospectus@bangor.ac.uk

Swyddog Derbyniadau’r Ysgol: Miss Lynne Davis

Cliciwch yma am y fersiwn Saesneg o’r dudalen hon.