UWB Crest

Cyrsiau

Cyrsiau i israddedigion

Cyrsiau i israddedigion

FdA Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Chymorth Dysgu

Côd cwrs UCAS: X311

Hyd: 2 flynedd llawn-amser neu 4 blynedd rhan-amser

Mae'n bosib gadael y cwrs ar lefel Tystysgrif gyda 120 credyd.

Mae'r cwrs hefyd ar gael yn y Saesneg.

Gofynion Mynediad

Am fanylion cyffredinol, darllenwch ein tudalen ar ofynion mynediad.

Fel rheol, bydd yr holl ymgeiswyr yn cael cyfweliad. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n ateb y meini prawf canlynol:

  • Ymarferwyr presennol ym maes Plentyndod Cynnar
  • Myfyrwyr sydd wedi cwblhau lleoliadau gwaith mewn sefydliadau Blynyddoedd Cynnar fel rhan o gymhwyster Lefel 3
  • Mynd i gyfweliad a llwyddo ynddo.

Oherwydd y darperir lleoliadau i fyfyrwyr mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith, neilltuir nifer o lefydd ar y cwrs hwn ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl. Sicrhewch eich bod yn dynodi eich dewis iaith ar eich ffurflen gais.

Mwy o wybodaeth:

Janet Thomas

Gweinyddwr Cwrs

Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes
Ffôn: 01248 383275
e-bost: plentyndodcynnar@bangor.ac.uk

www.bangor.ac.uk/addysg/cymraeg

Astudio trwy'r Gymraeg

Mae'r mwyafrif heleath o'r modiwlau yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir cyflwyno gwaith cwrs pob modiwl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cefndir y cwrs

Os byddwch yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd eich dealltwriaeth o faterion ynglyn â phlant a’r modd y maent yn datblygu a dysgu yn codi i lefel gradd sylfaen genedlaethol. Bydd eich dysgu academaidd yn sylfaen i’r medrau a ddatblygwch yng nghyswllt gwaith.

Mae’r cwrs gradd yn seiliedig ar bartneriaeth waith rhwng yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Coleg Menai, meithrinfeydd a chanolfannau gofal plant lleol. Mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas ar gyfer ymarferwyr presennol sy’n gweithio ym maes Plentyndod Cynnar ac yn dymuno astudio tra byddant yn parhau i weithio.


Mae’r cwrs gradd yn addas ar gyfer y rheiny sy’n awyddus i ennill gradd genedlaethol werth 240 o gredydau. Fodd bynnag, mae’n bosibl dyfarnu tystysgrif (120 o gredydau) pan fydd myfyriwr yn cwblhau Lefel 4 yn llwyddiannus. Gall cwblhau’r radd sylfaen yn llwyddiannus roi mynediad i drydedd flwyddyn gradd BA Astudiaethau Plentyndod.

Pam dewis Bangor?

  • Cwrs hyblyg yw hwn, a gynigir fel cwrs llawn-amser dros 2 flynedd, neu fel cwrs rhan-amser dros 4 blynedd. Mae’n addas ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio mewn meysydd sy’n berthnasol i’r radd, megis meithrinfeydd neu ofal plant, rheolaeth gofal plant, neu ganolfannau partneriaeth, ac i gynorthwywyr dysgu mewn ysgolion cynradd. Mae’n bosibl astudio a pharhau i weithio.

Beth fyddaf yn ei astudio?

Blwyddyn 1

Bydd y modiwlau’n cynnwys:

  • Meithrin Ymddygiad Derbyniol
  • Datblygiad Plant
  • Yr Amgylchedd Dysgu
  • Dysgu Trwy Brofiadau
  • Lleoliad gwaith

Blwyddyn 2

Bydd y modiwlau’n cynnwys:

  • Sgaffaldio Dysgu
  • Hawliau Plant
  • Y Plentyn Iach
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Lleoliad gwaith

Sut y byddaf yn dysgu?

Am fwy ar astudio gradd darllenwch ein tudalennau am Astudio ym Mangor.

Mae’r cwrs hwn yn gysylltiedig â gweithle, ac felly mae’n ymarferol iawn. Bydd y rheiny nad ydynt yn gyflogedig yn treulio diwrnod yr wythnos, dros 15 wythnos, ar leoliad gwaith.

Rhagolygon Gyrfaoedd

Mae’r FdA yn addas i’r rhai sydd am weithio gyda phlant ifanc neu fel cymorthyddion dosbarth mewn ysgol gynradd.

Noder os gwelwch yn dda: Gall rhai elfennau o'r cwrs yma newid yn dilyn ail-ddilysu yn 2010-11.