UWB Crest

Cyrsiau

Cyrsiau i israddedigion

Cyrsiau i israddedigion

BA (Anrhydedd) Astudiaethau'r Cyfryngau

Côd cwrs UCAS: PH00

Hyd: 3 blynedd

Gofynion Mynediad

Am fanylion cyffredinol, darllenwch ein tudalen ar ofynion mynediad.

  • 220-260 pwynt, lefel A; nid oes angen unrhyw bynciau penodol
  • GNVQ (Uwch) gyda Theilyngdod cyffredinol
  • Os oes gennych HND addas mae’n bosibl y gallwch gychwyn ar flwyddyn 2
  • Rydym yn ystyried myfyrwyr hŷn gyda phrofiad perthnasol yn ôl pob cais unigol
  • BTEC mewn pwnc perthnasol.

Mwy o wybodaeth:

Dr Llion Iwan
Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau
Ffôn: 01248 388560
e-bost: YACC@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk/media

Astudio trwy'r Gymraeg

Dyma'r unig gwrs yn y maes yng Nghymru sy'n cael ei gynnig yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cefndir y cwrs

Ar y cwrs cyffrous hwn byddwch yn dysgu am ddulliau gwahanol o gyfathrebu - mewn geiriau a delweddau, ac agweddau gwahanol o'r cyfryngau - radio, teledu ac amlgyfryngedd. Bydd cyfle hefyd i ddatblygu'r medrau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd perthnasol i'r meysydd hynny.

Pam dewis Bangor?

  • Mae gennym gysylltiadau arbennig gyda'r diwydiannau creadigol proffesiynol yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys cwmnïau teledu annibynnol, BBC, S4C, Sgrîn Cymru Wales.
  • Mae Canolfan y Cyfryngau yn cynnwys stiwdio deledu aml-gamera gydag oriel gynhyrchu, stiwdio radio sain gydag offer hunan-reoli, unedau symudol fideo a sain.
  • Yn yr un ganolfan ceir yr offer golygu digidol diweddaraf: Final Cut Pro ar gyfer sain a fideo.
  • Cynhelir dangosaidau o raglenni a ffilmiau gyda thaflunydd DVD a sain Dolby yn sinema'r Ysgol.

Beth fyddaf yn ei astudio?

Blwyddyn 1


Byddwch yn astudio detholiad o’r canlynol:

  • Cyflwyniad i Newyddiaduraeth
  • Cyfathrebu Digidol
  • Ymarfer Creadigol
  • Y Ddelwedd Symudol
  • Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau
  • Cyflwyniad i Astudiaethau’r Cyfryngau
  • Cyflwyniad i Berfformio

Blwyddyn 2


Byddwch yn astudio detholiad o’r canlynol:

  • Hanes a Datblygiad Newyddiaduraeth
  • Gemau ac Amgylchedd Rhithiol
  • Ffilmiau a Rhaglenni Dogfen
  • Datblygiad y Cyfryngau Newydd
  • Deall y Ddrama Deledu
  • Datblygiad Cysylltiadau Cyhoeddus
  • Ymarfer Y Cyfryngau: Ffeithiol
  • Theatr yn y Gymdeithas
  • Theatr a Pherfformiad: Yr Hunain

Blwyddyn 3


Byddwch yn astudio detholiad o’r canlynol:

  • E-Gyhoeddi
  • Ymarfer Cyfryngol: Ffuglen
  • Astudiaeth Unigol neu Draethawd
  • Cywaith Grwp Blwyddyn Olaf
  • Gemau
  • Sut mae’r Cyfryngau’n gweithio
  • Ymarfer Theatr

Sut y byddaf yn dysgu?

Am fwy ar astudio gradd darllenwch ein tudalennau am Astudio ym Mangor.

Byddwch yn treulio 12 awr yr wythnos ar gyfartaledd mewn darlithoedd a seminarau. Ar gyfer modiwlau penodol bydd un diwrnod yr wythnos hefyd yn cael ei neilltuo’n arbennig ar gyfer cynyrchiadau ymarferol. Mae ein cymhareb staff-myfyrwyr yn un ffafriol iawn.

Mae dulliau asesu yn amrywio. Bydd rhai modiwlau yn cael eu hasesu yn gyfan gwbl trwy waith cwrs; gydag eraill bydd hyd at hanner yr asesiad trwy gyfrwng arholiad.

Rhagolygon Gyrfaoedd

Oherwydd bod elfen gref o hyfforddiant ymarferol neu alwedigaethol yn y cwrs, mae ein myfyrwyr bellach yn gweithio mewn nifer o feysydd amrywiol: y cyfryngau traddodiadol a newydd, ysgrifennu a chyhoeddi, addysg a llywodraeth leol, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus a’r heddlu.